Cefndir - Piwritaniaeth
Daw’r gair Piwritan o’r gair ‘purdeb’ neu ‘puro’. Roedden nhw’n Brotestaniaid eithafol oedd eisiau puro Eglwys Loegr drwy ddychwelyd i addoli’n syml a di-gymhleth a dilyn ffordd o fyw y Cristnogion cynharaf.
Credoau’r Piwritaniaid
- Bod defodau, seremonïau a dysgeidiaeth a ddatblygwyd dros ganrifoedd gan yr Eglwys Gatholig yn mynd yn erbyn bwriadau gwreiddiol Duw a’i bobl.
- Y gallai cynulleidfaoedd drefnu eu hunain ac nad oedd angen hierarchaeth Eglwysig, yn enwedig esgobion.
- Credai rhai bod pethau fel dawnsio, theatrau a phleser yn bechadurus.
- Dylai pobl wisgo’n weddus.
- Diwrnod yr Arglwydd oedd y Sul a dylid treulio’r diwrnod yn astudio crefydd.
- Teimlai pawb fod Eglwys Oes Elisabeth dal yn rhy debyg i’r Eglwys Gatholig.
Pan oedd y frenhines Gatholig, Mari I, ar yr orsedd, dihangodd nifer o Biwritaniaid dramor a’u dylanwadu gan syniadau Calfinaidd. Pan ddaeth Elisabeth, oedd yn brotestant, i’r orsedd, dechreuodd yr ‘alltud’ ddychwelyd.
Roedd Ardrefniant CrefyddolDyma ymgais gan Elisabeth I yn 1559 i ddod â’r gwrthdaro i ben rhwng y Catholigion a’r Protestaniaid ac uno’r wlad. Elisabeth yn golygu bod y wlad bellach yn Brotestannaidd yn swyddogol, ond yn caniatáu rhai traddodiadau addoli Catholig. Gyntaf oll, roedd nifer o Biwritaniaid fel pe baent yn derbyn yr Ardrefniant, ond yn fuan iawn, dechreuwyd trefnu ymgyrchoedd i’w wneud yn fwy Protestannaidd.