˿

Piwritaniaeth yn oes ElisabethY Piwritanaiaid yn y Senedd a’r Cyfrin Gyngor

Daeth Ardrefniant Crefyddol 1559 â sefydlogrwydd i Gymru a Lloegr. Serch hynny, roedd rhai Protestaniaid eithafol o’r enw Piwritaniaid eisiau mwy o newid a daeth hynny’n her i Elisabeth. Pam wnaeth y Piwritaniaid ddod yn fygythiad cynyddol yn ystod teyrnasiad Elisabeth?

Part of HanesOes Elisabeth, 1558-1603

Natur y gwrthwynebiad Piwritanaidd yn y Senedd a’r Cyfrin Gyngor

Ar y pryd, roedd yn ymddangos mai’r Catholigion oedd y bygythiad mwyaf, ond y Piwritaniaid oedd fwyaf peryglus yn yr hirdymor.

Cafwyd un o’r sialensiau go iawn cyntaf yn 1571 pan gyflwynodd Aelod Seneddol Piwritanaidd, Walter Strickland yn Nhŷ’r Cyffredin i newid y Llyfr Gweddi Gyffredin i adlewyrchu'r ffydd Biwritanaidd. Caeodd Elisabeth y Senedd gan wahardd Tŷ’r Cyffredin rhag trafod mesurau am grefydd.

Rhyddid barn

Heriodd nifer o Aelodau Seneddol Piwritanaidd Elisabeth ynglŷn â’r rhyddid i leisio barn, gan anelu i drafod polisi crefyddol Elisabeth. Er enghraifft, carcharwyd yr Aelod Seneddol Piwritanaidd, Peter Wentworth sawl gwaith am godi’r mater o ryddid i lefaru, crefydd a’r olyniaeth, a bu farw yn Nhŵr Llundain yn 1597.

Yn 1586, carcharwyd Anthony Cope gyda Wentworth am sawl mis am gyflwyno mesur i newid yr Ardrefniant Crefyddol. Gorfododd yr anawsterau hyn yn y Senedd y Piwritaniaid i edrych am ffyrdd eraill o gael dylanwad.

Y Cyfrin Gyngor

Roedd Elisabeth hefyd yn cael ei herio gan y Piwritaniaid yn y Cyfrin Gyngor. Roedd rhai o’i chynghorwyr mwyaf pwerus yn Biwritaniaid, a’r mwyaf blaenllaw oedd Syr Francis Walsingham a’i hen ffefryn Robert Dudley, Iarll Caerlŷr. Roedden nhw’n Biwritaniaid weddol oedd yn gobeithio annog Elisabeth i gyflwyno mwy o newid.

Portrait of Sir Francis Walsingham.
Image caption,
Syr Francis Walsingham – Piwritan blaenllaw