Adloniant traddodiadol
Roedd traddodiadau yn chwarae rhan bwysig yng nghymdeithas oes Elisabeth. Roedd gwyliau yn bwysig, gyda digwyddiadau fel dawnsio o amgylch y fedwen Fai yn parhau am ganrifoedd.
Gemau pêl
Daeth gemau pêl yn boblogaidd yn ystod y cyfnod hwn. Dechreuodd tennis yn ystod cyfnod y Tuduriaid, oedd yn cael ei chwarae gan y dosbarthiadau uwch gan fwyaf. Roedd bowls a sgitls yn cael eu chwarae’n aml, yn ogystal â phêl-droed, oedd yn wahanol iawn i’r gêm bresennol.
Roedd pêl-droed yn cael ei chwarae gan amlaf rhwng pentrefi. Doedd dim caeau chwarae, dim goliau nac uchafswm nifer y chwaraewyr. Yr enillydd oedd yr ochr fyddai’n cael y bêl gyferbyn â’r llinell derfyn, a allai fod milltir i ffwrdd. Roedd y gemau wastad yn dreisgar a byddai ymladd rheolaidd.
Cnapan
Yng Nghymru, yn enwedig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, cyfeiriwyd at bêl-droed fel cnapan. Y bwriad oedd cymryd y bêl (o’r enw cnapan) ymlaen drwy unrhyw ffordd bosib, ee taflu, smyglo, pasio, i’r eglwys ym plwyfArdal/cymuned sy'n mynychu eglwys benodol. y gwrthwynebwyr.
Y prif flaenoriaethau eraill oedd:
- dau dîm (o blwyfi gwahanol)
- y bonedd ar gefn ceffyl, a’r werin ar droed
- dim cae chwarae, ond chwarae dros ardal eang
- fel rygbi, byddai’r rhai oedd yn cymryd rhan yn cymryd safleoedd penodol, ee dynion mwy fel ‘blaenwyr’, dynion cyflymaf fel ‘olwyr’
- gallai hyd at fil o bobl gymryd rhan ym mhob tîm