˿

Patrymau a phrosesau’r tywydd – CBACFfactorau sy’n effeithio ar dywydd a hinsawdd y DU

Tywydd yw amodau’r atmosffer o ddydd i ddydd mewn lle penodol. Hinsawdd yw amodau tywydd cyfartalog lle dros gyfnod, 30 mlynedd fel arfer.

Part of DaearyddiaethTywydd, hinsawdd ac ecosystemau

Ffactorau sy’n effeithio ar dywydd a hinsawdd y DU

Lleoliad

Mae’r DU ar 'faes y gad' rhwng aer cynnes trofannol i’r de ac aer oer pegynol i’r gogledd. Wrth i ddau fath hollol wahanol o aer frwydro am reolaeth dros y lledredau canol, mae’r DU yn gweld tywydd cyferbyniol a chyfnewidiol.

Mae cerrynt cynnes Drifft Gogledd Iwerydd yn cael effaith sylweddol ar hinsawdd y DU. Mae’n cludo dŵr cynnes o Gefnfor De Iwerydd i lannau gorllewinol y DU. Yna mae prifwyntoedd y de-orllewin yn lledaenu’r amodau cynhesach hyn, gan roi gaeafau mwyn i rannau gorllewinol Prydain.

Mae’r diagram hwn yn dangos sut y mae tarddiad a thaith yr aergorff yn gallu effeithio ar hinsawdd y DU. Er enghraifft, mae’r aergorff pegynol-arforol yn cychwyn yn y pegynau ac yn teithio dros fôr yr Arctig, felly mae’n dod â thywydd oer a gwlyb. Mae’r aergorff trofannol-cyfandirol yn cychwyn yn y trofannau ac yn teithio dros dir gan ddod â thywydd poeth a sych i’r DU.

Graffigyn yn dangos aergyrff o wahanol gyfeiriadau a’r tywydd sy’n dod gyda nhw. Gogledd-ddwyrain: Arctig. De-ddwyrain: Cyfandirol. De-orllewin: Trofannol. Gogledd-orllewin: Arforol.