Sut mae tywydd y DU yn amrywio?
Mae gan y DU hinsawdd dymherus. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu bod Prydain yn cael gaeafau claear, gwlyb a hafau cynnes, gwlyb. Yn anaml iawn y mae’n gweld y gwres, oerfel, sychder neu wyntoedd eithafol sy’n gyffredin mewn hinsoddau eraill. Ѳ’r tywydd hefyd yn gyfnewidiol iawn.
Ѳ’r graff hinsawddMae graffiau hinsawdd yn cyfuno graff bar (glawiad) a graff llinell (tymheredd) i’n dysgu ni am amodau blynyddol cyfartalog yr hinsawdd mewn lleoliad arbennig. cyntaf ar gyfer Llundain, yn ne-ddwyrain y DU. Ѳ’r rhanbarth hwn yn cael ei nodweddu gan hinsawdd cynnes a sych yn yr haf a hinsawdd oer a sych yn y gaeaf.
Nid yw pob rhan o’r DU yn rhannu’r un hinsawdd. Ѳ’r ail graff hinsawdd ar gyfer Cymbria, ardal fynyddig yng ngogledd-orllewin Lloegr. Ѳ’r tymereddau at ei gilydd yn oerach ac mae mwy o lawiad drwy gydol y flwyddyn.
Amrywiadau mewn glawiad a thymheredd
Glawiad
Ar gyfartaledd, mae’n bwrw un o bob tri diwrnod yn y DU. Mae glawiad blynyddol yr ardaloedd uchel yn y gorllewin yn fwy na glawiad blynyddol yr ardaloedd isel yn y dwyrain. Mae prifwyntoedd y de-orllewin yn dod â lleithder o Gefnfor Iwerydd.
Tymheredd
Mae amrywiadau rhanbarthol mewn tymheredd yn y DU. Yn gyffredinol, mae’r hinsawdd yn cynhesu tua’r de. Mae map coroplethMewn mapiau coropleth mae gwahanol liwiau a thechnegau graddliwio’n cynrychioli gwahanol werthoedd. gan y Swyddfa Dywydd yn dangos mai de-ddwyrain y DU yn aml iawn yw’r lle cynhesaf yn y gwanwyn, ym mis Ebrill. Yr Alban yw’r rhanbarth oeraf, ynghyd â Cymbria yng ngogledd Lloegr ac Eryri yng ngogledd-orllewin Cymru.