˿

Sgiliau mapio – CBACDefnyddio a deall atlasau

Mae mapiau’n cynrychioli’r byd go iawn. Mae mapiau mewn atlas yn dangos ardaloedd mawr ac mae mapiau’r Arolwg Ordnans yn dangos ardaloedd llai mewn mwy o fanylder. Mae bras-fapiau, lluniau lloeren, ffotograffau, mapiau'r System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a mapiau daeareg yn ddefnyddiol.

Part of DaearyddiaethSgiliau map

Defnyddio a deall atlasau

Mae yn darparu mapiau ar cenedlaethol a byd-eang. Mae rhai mapiau atlas yn dangos , ac eraill yn dangos .

Mapiau ffisegol

Ar raddfa fyd-eang, mae mapiau ffisegol yn dangos nodweddion naturiol fel mynyddoedd, tir isel, prif afonydd, moroedd, cefnforoedd ac , fel anialwch a choedwigoedd glaw.

Ar lefel genedlaethol, mae mapiau ffisegol yn dangos nodweddion a draenio, fel afonydd.

Mae rhai mapiau’n dangos nodweddion ffisegol sy’n cael eu profi yn hytrach na’u gweld. Mae mapiau glawiad a thymheredd cyfartalog yn enghreifftiau o hyn.

Gogledd-orllewin yr Alban sydd â’r glawiad mwyaf, gyda dros 3,000 mm. Dwyrain Lloegr sy’n cael y lleiaf o law, gyda llai na 700 mm.

Mapiau dynol a gwleidyddol

Mae mapiau gwleidyddol yn dangos ffiniau gwledydd a dinasoedd mawr. Mae mapiau dynol yn dangos nodweddion y mae pobl wedi’u creu, er enhraifft , llif , a chynllun .

Mae rhai mapiau’n dangos nodweddion dynol sy’n cael eu profi yn hytrach na’u gweld. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys , neu hyd yn oed lefel hapusrwydd byd-eang.

Mae’r gwledydd wedi’u graddliwio mewn gwahanol liwiau. Mae allwedd yn dangos beth yw arwyddocâd y lliwiau.

Cyfeiriad

Dylai pob map gynnwys saeth i ddangos i ba gyfeiriad mae’r gogledd. Mae’r gogledd ar frig y glôb a’r de ar y gwaelod. Y dwyrain sydd i’r dde a’r gorllewin sydd i’r chwith. Mae’r pwyntiau sydd rhwng y pedwar pwynt yma ar y cwmpawd yn cael eu cyfleu ar ffurf cyfuniadau, ee y pwynt rhwng y gogledd a’r dwyrain yw’r gogledd-ddwyrain. Os yw’r pwynt ychydig yn nes i’r dwyrain, mae’n cael ei alw’n ddwyrain gogledd-ddwyrain.

Dyma gyfeiriadau’r cwmpawd o’r brig gan symud yn glocwedd: gogledd, dwyrain, de, gorllewin. Rhwng y rhain, ceir gogledd-ddwyrain, de-ddwyrain, de-orllewin a gogledd-orllewin.

Lledred a hydred

Map gyda llinellau lledred a hydred i bennu’r cyfeiriad.
Figure caption,
Yn aml, fydd mapiau ddim yn dangos cyfeiriad y cwmpawd. Yn y map o’r byd uchod, mae llinellau lledred a hydred yn cael eu defnyddio i bennu’r cyfeiriad

Mae a yn galluogi defnyddwyr i ddod o hyd i leoliadau mewn atlas.

  • Gan fod y Ddaear yn sffêr, caiff llinellau lledred a hydred eu mesur gan ddefnyddio graddau cylch.
  • Mae llinellau lledred yn mynd o’r dwyrain i’r gorllewin. Y yw’r llinell lledred sydd ar 0°. Mae °N (gogledd) yn nodi’r llinellau uwch ei ben, a °S (de) yn nodi’r llinellau oddi tano.
  • Mae llinellau hydred yn mynd o’r gogledd i’r de. Y , neu , yn Llundain yw’r llinell hydred sydd ar 0°. Mae °E (dwyrain) yn nodi’r llinellau i’r dde ohono, ac °W (gorllewin) yn nodi’r llinellau i’r chwith ohono.

Lledred sy’n cael ei ddangos gyntaf, wedyn yr hydred, ee mae Manceinion yn y DU yn 53.5 N, 2.2 W.