Defnyddio a deall mapiau’r Arolwg Ordnans
Yr Arolwg Ordnans (AO/OS)Yr asiantaeth fapio genedlaethol ar gyfer Prydain Fawr a’r cynhyrchydd mapiau mwyaf toreithiog. (OS) yw asiantaeth mapio’r Deyrnas Unedig. Mae’n creu map digidolMap ar sgrin cyfrifiadur. a mapiau papur cyfredol i unigolion a busnesau eu defnyddio.
Defnyddio allwedd
Mae mapiau OS yn dangos nodweddion ffisegol a dynol fel symbolau. Mae hyn yn gwneud y mapiau’n haws eu darllen. Mae gan bob map OS allwedd i ddangos beth yw ystyr y symbolau.
Graddfa a phellter
Mae gwrthrychau ar fapiau’n llawer llai nag ydyn nhw go iawn. Yr enw ar y berthynas rhwng maint nodwedd ar y map a’i faint go iawn yw graddfaY gymhareb rhwng pellter ar fap, graff neu ddiagram a’r pellter gwirioneddol.. Mae graddfa yn cael ei dangos fel cymhareb, ee mae 1:25,000 yn golygu bod 1 cm ar y map yn cynrychioli 25,000 cm neu 250 m go iawn.
Mae gwahanol raddfeydd i’w cael gyda mapiau OS:
- Mapiau graddfa fawr – 1:1,250, 1:2,500 ac 1:10,000. Mae nodweddion yn ymddangos yn fwy ar y map. Mae modd defnyddio’r rhain ar gyfer trefi a dinasoedd unigol.
- Graddfa fach – 1:25,000, 1:50,000 ac 1:100,000. Mae nodweddion yn ymddangos yn llai ar y map. Mae modd defnyddio’r rhain i ddangos ardaloedd neu ranbarthau mwy.
I ddangos graddfa graffig, mae llinell hir yn cael ei defnyddio, gyda llinellau llai ar ei hyd yn marcio’r pellteroedd, yn debyg i bren mesur.
Cyfeirnodau grid pedwar a chwe ffigur
Mae cyfeirnod gridSystem o gyfesurynnau a gaiff eu defnyddio i nodi lleoliadau ar fap. yn pennu lleoliad pethau’n fanwl gywir ar fap. Mae grid ar bob map OS, mewn llinellau glas ysgafn. dwyreiniadAr fap, llinellau grid fertigol sydd wedi eu rhifo ac sy’n cynyddu o ran gwerth wrth symud tua’r dwyrain. yw’r llinellau ar draws waelod y map, gan eu bod yn teithio tua’r dwyrain. gogleddiadAr fap, llinellau grid llorweddol wedi eu rhifo sy’n cynyddu o ran gwerth wrth symud tua’r gogledd. yw’r llinellau i fyny ochr y map, gan eu bod yn teithio tua’r gogledd.
Mae cyfeirnodau grid pedwar ffigur yn lleoli gwrthrychau neu lefydd mewn sgwâr grid, ac fel hyn mae eu canfod:
- Yn gyntaf, noda rif y dwyreiniad sydd yng nghornel chwith isaf y sgwâr (mae’r dwyreiniadau i’w gweld ar waelod y map). Bydd y rhif yn cynnwys dau ddigid, ee 13.
- Wedyn, noda rif y gogleddiad sydd yng nghornel chwith isaf y sgwâr (mae’r gogleddiadau i’w gweld ar ochr y map). Bydd y rhif hwn yn cynnwys dau ddigid arall, sy’n rhoi cyfanswm o 4. Dyma pam maen nhw’n cael eu galw’n gyfeirnodau grid pedwar ffigur.
Mae cyfeirnodau grid chwe ffigur yn lleoli gwrthrychau neu lefydd mewn rhan benodol o sgwâr grid, ac fel hyn mae eu canfod:
- Noda ddau rif y dwyreiniad o’r ffigur pedwar digid, ond ychwanega drydydd rhif i ddangos sawl degfed ar draws sgwâr y grid mae’r lle neu’r gwrthrych.
- Noda ddau rif y gogleddiad o’r ffigur pedwar digid, ond ychwanega drydydd rhif i ddangos sawl degfed i fyny sgwâr y grid mae’r lle neu’r gwrthrych.
Cyfuchliniau a phwyntiau uchder
Ar fap, mae uchder ei cael ei ddangos mewn metrau uwchlaw lefel y môr. Mae pwyntiau uchder yn dangos uchder pwyntiau penodol ar y map.
Mae cyfuchlinLlinell ar fap sy’n cysylltu pwyntiau o’r un uchder uwch ben lefel y môr – ac felly yn cynrychioli graddiant y tir. yn cael eu hychwanegu at fapiau i ddangos uchder a graddiantGradd gogwydd llethr yn y tirwedd.. Ar fapiau OS, llinellau brown neu oren tenau yw’r rhain, ac mae uchder y tir wedi’i nodi ar rai ohonyn nhw. Mae’r llinellau’n cysylltu ardaloedd â’r un uchder.
- Mae cyfuchliniau sy’n agos i’w gilydd yn dangos tir ag uchder sy’n codi neu’n gostwng yn gyflym. Mae hwn yn dir serth.
- Mae cyfuchliniau sy’n bell oddi wrth ei gilydd yn dangos tir ag uchder sy’n codi neu’n gostwng yn raddol. Mae’r tir hwn ar fymryn o ogwydd.
Gallwn ni ddefnyddio cyfuchliniau i greu diagramau o groestoriad tirwedd. Mae hyn yn ein helpu i gyfateb cyfuchliniau ar y map â nodweddion o’r dirwedd go iawn, ee bryniau, cymoedd ac esgairDarn o dir uchel sy’n ymwthio allan i dir is. yn y tir.
Mae croestoriadau o ddyfnder afonydd yn cael eu dangos gan ddefnyddio rhifau negyddol, fel bod y graff llinell yn dangos dyfnder yn hytrach nag uchder.