Dehongli mapiau gan ddefnyddio’r System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)
Mapiau’r System Gwybodaeth Ddaearyddol
Mapiau digidol gyda haenau o ddata wedi eu hychwanegu atyn nhw yw mapiau’r system gwybodaeth ddaearyddol (GIS)Mapiau electronig gyda haenau wedi’u hychwanegu atynt i roi gwybodaeth am yr ardal. (GIS). Mae modd newid mapiau GIS i ddangos gwybodaeth benodol am le. Mae'r haenau o wybodaeth yn gallu cynnwys:
- graddliwio ardaloedd – rhannau o’r map yn cael eu graddliwio i ddangos patrymau
- graffiau – siartiau bar, siartiau cylch a symbolau cyfrannol yn cael eu gosod ar yr haenau
- ffotograffau – mae modd ychwanegu ffotograffau at bwyntiau ar y map
- llinellau llif – llinellau sy’n dangos symudiad rhwng llefydd