Mapiau eraill
Mae mathau eraill o fapiau sy’n cynrychioli’r dirwedd.
Bras-fapiau
Lluniadau syml o’r dirwedd yw bras-fapiau. Maen nhw’n dangos pethau sydd weithiau wedi’u cuddio mewn ffotograffau neu ar fapiau, ee dylanwad twristPerson sy’n teithio at ddibenion hamdden neu fusnes. ar dirwedd.
Gall bras-fapiau gael eu dangos fel golygfa trem aderynGolygfa oddi fry. neu luniad o’r gorwel. Mae modd eu tynnu wrth wneud gwaith maes neu o ffotograff. Mae’n ddefnyddiol anodiLabelu neu ychwanegu nodiadau’n fanwl. bras-fapiau neu ddefnyddio ffotograff i gyd-fynd â nhw.
Ffotograffau
Mae modd tynnu ffotograffau o wahanol leoliadau, a'u defnyddio ar y cyd â mapiau i gyflwyno canfyddiadau gwaith maes:
- Ffotograffau – mae modd tynnu’r rhain wrth wneud gwaith maes gan ddefnyddio camera neu ddyfais symudol. Mae angen eu hanodi i ddangos unrhyw nodweddion.
- Ffotograffau o’r awyr – caiff y rhain eu tynnu o awyren neu gan ddrôn fel arfer. Maen nhw’n cynnwys ardal fwy na lluniau ar lefel y tir felly maen nhw’n ddefnyddiol er mwyn dangos patrymau gofodolRhywbeth sy’n ymwneud â gofod neu sut mae pethau wedi cael eu gwasgaru..
- Lluniau lloeren – mae’r rhain yn lluniau cydraniadY manylder mewn delwedd – po uchaf yw’r cydraniad, po fwyaf manwl yw’r llun. Mewn termau cyfrifiadurol, caiff cydraniad ei fesur mewn dotiau y fodfedd (dots per inch - dpi). uchel sy’n cael eu tynnu o lloerenGwrthrych sy’n troi o gwmpas planed. Er enghraifft, mae’r Lleuad yn lloeren naturiol sy’n cylchdroi’r Ddaear, ond mae lloerenni cyfathrebu’n rhai artiffisial. yn y gofod. Maen nhw’n dangos ardal helaeth iawn, ond yn llai manwl na lluniau agos.
Anodi mapiau a ffotograffau
Labeli manwl sy’n egluro beth sy’n cael ei ddangos yw anodiadau. Maen nhw’n bwysig oherwydd eu bod yn caniatáu i ddaearyddwyr ddehongli a chymharu mapiau a ffotograffau. Mae anodiadau yn gallu canolbwyntio ar nodweddion ffisegol neu ddynol, ac maen nhw fel arfer yn cynnwys termau allweddol.
Siartiau synoptig
Ystyr siart synoptig yw unrhyw fap sy’n crynhoi amodau atmosfferig (tymheredd, gwlybaniaeth, cyflymder a chyfeiriad gwynt, gwasgedd atmosfferig a gorchudd cwmwl) mewn ardal helaeth ar adeg benodol. Mae’n rhoi trosolwg o’r amodau tywydd mewn nifer o orsafoedd tywydd, awyrennau, balwnau a lloerenni gwahanol.
Drwy gasglu’r wybodaeth dros ardal helaeth, mae meteorolegwyr yn gallu arsylwi ymddygiad a symudiad ffurfiannau tywydd a fyddai'n gallu effeithio ar eu hardal leol yn y dyfodol. Mae hyn yn caniatáu i feteorolegwyr lunio rhagolygon tywydd mwy manwl gywir. Bydd y siartiau yn cael eu diweddaru bob chwech awr o leiaf.
Mae nifer o wahanol fathau o fapiau tywydd, ac mae pob un ohonyn nhw’n cael eu llunio gan ddefnyddio safonau rhyngwladol a symbolau cydnabyddedig.