成人快手

Crynodeb o鈥檙 asesiad

Bydd yr arholiad hwn yn profi dy sgiliau darllen ac ysgrifennu. Yn Adran A bydd rhaid i ti ateb ystod o gwestiynau yn seiliedig ar destunau darllen. Bydd y darnau darllen yn ddarnau Disgrifio, Naratif ac Esbonio.

Yn Adran B fe gei di ddewis o ddau ddarn. Bydd rhaid i ti ysgrifennu un o鈥檙 ddau. Gall y dasg fod naill ai鈥檔 dasg ddisgrifio, tasg naratif neu dasg esbonio.

Mae鈥檙 papur werth 70 o farciau:

  • 30 marc ar gyfer y dasg ddarllen
  • 40 marc ar gyfer y dasg ysgrifennu
  • Bydd un dasg prawf-ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu鈥檔 gywir yn uned dau yn ogystal

Naratif

Beth yw testun naratif?

  • Ailadrodd digwyddiadau yn eu .
  • Mae darnau naratif yn cael eu hysgrifennu yn y person cyntaf neu鈥檙 trydydd person.
  • Mae鈥檙 testunau yn cynnwys manylion ynghylch pwy, beth, pryd, pam a ble.
  • Mae angen i ti ddefnyddio amser gorffennol y ferf.
  • Gellir defnyddio sgwrs/deialog.

Mathau o ffurfiau naratif:

  • stori fer
  • hunangofiant
  • cofiant

Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu鈥檔 ddisgrifiadol:

  • ffurf 鈥 ym mha ffurf wyt ti鈥檔 ysgrifennu (erthygl, ymson, portread, llythyr, stori, ayyb)?
  • cynulleidfa 鈥 ar gyfer pwy wyt ti鈥檔 ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod, ayyb)?
  • pwrpas 鈥 pam wyt ti鈥檔 ysgrifennu (perswadio, dadlau, adrodd hanes, ayyb)?
  • arddull 鈥 sut wyt ti鈥檔 ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig, bratiaith, ayyb)?