成人快手

EsbonioCrynodeb o鈥檙 asesiad

Yn y canllaw hwn mae enghreifftiau o ffurfiau sydd yn esbonio. Mae鈥檙 canllaw yn nodi beth yw pwrpas y mathau yma o destunau ac yn nodi beth sydd yn angenrheidiol o ran iaith ac arddull.

Part of CymraegYsgrifennu

Crynodeb o鈥檙 asesiad

Bydd yr arholiad hwn yn profi dy sgiliau darllen ac ysgrifennu. Yn Adran A bydd rhaid i ti ateb ystod o gwestiynau yn seiliedig ar destunau darllen. Bydd y darnau darllen yn yr arholiad hwn yn ddarnau Disgrifio, Naratif ac Esbonio.

Yn Adran B fe gei di ddewis o ddau ddarn i鈥檞 hysgrifennu. Bydd rhaid i ti ysgrifennu un o鈥檙 ddau. Gall y dasg fod naill ai鈥檔 dasg ddisgrifio, tasg naratif neu dasg esbonio.

Mae鈥檙 papur yn werth 70 o farciau:

  • 30 marc ar gyfer y darllen.
  • 40 marc ar gyfer y dasg ysgrifennu sef, ysgrifennu estynedig am 35 marc, cyfathrebu a threfn am 20 marc a 15 marc am ysgrifennu鈥檔 gywir. Bydd un dasg prawf-ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu鈥檔 gywir yn uned dau yn ogystal.

Esbonio

Beth yw testun sydd yn esbonio?

  • Testun sydd yn esbonio proses neu sut mae rhywbeth yn gweithio.
  • Mae angen defnyddio paragraffau i gyflwyno gwahanol resymau/camau i鈥檙 broses.
  • Gan amlaf byddi yn ysgrifennu gan ddefnyddio amser presennol y ferf.
  • Gan amlaf mae angen canolbwyntio ar achos ac effaith.
  • Weithiau bydd rhaid defnyddio geiriau a thermau technegol.
  • Mae modd defnyddio diagramau a siartiau llif (cofia does dim disgwyl i ti wneud hyn wrth ysgrifennu yn yr arholiad).

Dyma rai o鈥檙 ffurfiau ysgrifennu sy鈥檔 bosibl:

  • adroddiad ar destunau gwahanol 鈥 gwyddonol, hanesyddol, papur newydd
  • cofnodion cyfarfodydd
  • ffeithlun

Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu esboniad:

  • ffurf 鈥 ym mha ffurf wyt ti鈥檔 ysgrifennu (adroddiad, cofnodion, erthygl ayyb)
  • cynulleidfa 鈥 ar gyfer pwy wyt ti鈥檔 ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)
  • pwrpas 鈥 pam wyt ti鈥檔 ysgrifennu (i egluro, esbonio, adrodd hanes ayyb)
  • arddull 鈥 sut wyt ti鈥檔 ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig, bratiaith ayyb)