成人快手

Crynodeb o鈥檙 asesiad

Bydd yr arholiad hwn yn profi dy sgiliau darllen ac ysgrifennu. Yn Adran A bydd rhaid i ti ateb ystod o gwestiynau yn seiliedig ar destunau darllen. Bydd y darnau darllen yn ddarnau Trafod, 笔别谤蝉飞芒诲 a Chyfarwyddiadol.

Yn Adran B bydd rhaid i ti ysgrifennu dau ddarn. Gallant fod naill ai鈥檔 dasgau trafod neu'n dasgau perswadio.

Mae鈥檙 papur yn werth 70 o farciau:

  • 30 marc ar gyfer y darllen
  • 40 marc ar gyfer y dasg ysgrifennu

Cyfarwyddiadol

Beth yw testun cyfarwyddiadol?

Mae testun cyfarwyddiadol yn:

  • disgrifio sut mae rhywbeth yn cael ei wneud drwy restru cyfres o gamau
  • dechrau gan ddweud beth yw鈥檙 nod neu鈥檙 pwrpas
  • rhestru鈥檙 hyn sydd ei angen
  • camau mewn trefn amser
  • defnyddio pwyntiau bwled neu rifau
  • defnyddio berfau gorchmynnol

Math o ffurfiau ysgrifennu

  • Poster
  • 搁测蝉谩颈迟
  • Rheolau
  • Cyfarwyddiadau

Wrth ddarllen darn cyfarwyddiadol cofia ystyried:

  • ffurf - ym mha ffurf mae鈥檙 awdur wedi ysgrifennu (erthygl, ymson, portread, llythyr, stori ayyb)?
  • cynulleidfa - ar gyfer pwy mae鈥檙 awdur wedi ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)?
  • pwrpas 鈥 pam mae'r awdur yn ysgrifennu (i berswadio, dadlau, adolygu ayyb)?
  • arddull 鈥 sut mae鈥檙 awdur yn ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig ayyb)?