成人快手

Crynodeb o鈥檙 asesiad

Bydd yr arholiad hwn yn profi dy sgiliau darllen ac ysgrifennu. Yn uned dau Adran A bydd rhaid i ti ateb ystod o gwestiynau yn seiliedig ar destunau darllen. Bydd y darnau darllen yn ddarnau Disgrifio, Naratif ac Esbonio.

Yn Adran B fe gei di ddewis o ddau ddarn i鈥檞 hysgrifennu. Bydd rhaid i ti ysgrifennu un o鈥檙 ddau. Gall y dasg fod naill ai鈥檔 dasg ddisgrifio, tasg naratif neu dasg esbonio.

Mae鈥檙 papur (uned dau) werth 70 o farciau:

  • 30 marc ar gyfer y darllen
  • 40 marc ar gyfer yr ysgrifennu

Bydd y canllaw hwn yn canolbwyntio ar yr uned ysgrifennu, sef:

  • 35 marc am ysgrifennu estynedig
  • 20 marc am gyfathrebu a threfn
  • 15 marc am ysgrifennu鈥檔 gywir

Bydd un dasg brawf-ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu鈥檔 gywir yn uned dau yn ogystal.

Disgrifio

Beth yw testun disgrifiadol?

  • Testun sy鈥檔 disgrifio neu鈥檔 cyflwyno gwybodaeth am bwnc, lleoliad, gwrthrych, person ac ati.
  • Mae鈥檔 creu cymeriad neu leoliad dychmygol neu real.
  • Nod darn disgrifiadol yw creu awyrgylch a naws.
  • Gellir defnyddio ystod o nodweddion arddull, ee ansoddeiriau, cymariaethau, trosiadau a phersonoli.
  • Does dim angen mynegi barn na chynnig esboniad (fel arfer).

Mathau o ysgrifennu disgrifiadol sy鈥檔 bosibl:

Delweddau i gynrychioli chwech o ffurfiau y gallai myfyrwyr orfod eu darllen neu ysgrifennu amdanynt yn eu harholiad ysgrifenedig: Golygfa, Lle, Person, Dyddiadur, Teithlyfr ac Ymson.

Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu鈥檔 ddisgrifiadol:

  • ffurf - ym mha ffurf wyt ti'n ysgrifennu (erthygl, ymson, portread, llythyr, stori ayyb)?
  • cynulleidfa - ar gyfer pwy wyt ti'n ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)?
  • pwrpas 鈥 pam wyt ti'n ysgrifennu (i berswadio, dadlau, adolygu ayyb)?
  • arddull 鈥 sut wyt ti'n ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig, anffurfiol ayyb)?