成人快手

Aneurin Bevan a sefydlu鈥檙 GIG

Roedd Adroddiad Beveridge yn ymdrin 芒鈥檙 angen i sefydlu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Byddai hynny yn darparu ystod eang o wasanaethau meddygol am ddim yn cynnwys gwasanaethau meddygon, gofal deintyddol, gwasanaethau ysbyty a gwasanaethau mamolaeth. Cymrodd y ddeddf 1,771 o ysbytai awdurdodau lleol a 1,334 o ysbytai gwirfoddol i feddiant cyhoeddus gwladol.

Telir am y GIG yn rhannol o gyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol pobl ac yn rhannol o drethi pobl. Aneurin Bevan gyflwynodd y diwygiad yma.

Aneurin Bevan yn gwenu ac yn ysgwyd llaw claf benywaidd mewn gwely mewn ysbyty.
Image caption,
Aneurin Bevan yn ymweld ag ysbyty newydd, 1948

A oedd y GIG yn llwyddiant neu鈥檔 fethiant ar y cychwyn?

Llwyddiant

  • Roedd yn boblogaidd ymysg y rhai oedd yn awyddus i osgoi biliau meddygol.
  • Disgynnodd cyfraddau clefydau heintus megis twbercwlosis.
  • Rhwng 1931 a 1961, bu cynnydd o 10 mlynedd yn nisgwyliad oes dynion a merched.
  • Cymrodd y ddeddf 1,771 o ysbytai awdurdodau lleol a 1,334 o ysbytai gwirfoddol i feddiant cyhoeddus gwladol.
  • Erbyn Medi 1948, roedd 39,500,000 o bobl wedi cofrestru i鈥檙 GIG ac roedd dros 200,000 o feddygon teulu (tua 90 y cant) wedi eu cofrestru.

Methiant

  • Nid oedd yn cael cefnogaeth yr holl feddygon, ac roedd llawer yn dymuno parhau mewn practisau meddygol preifat. Ar y cychwyn pleidleisiodd y BMA yn erbyn y GIG, ac roedd raid i Bevan addasu鈥檙 ddeddf er mwyn caniat谩u iddyn nhw barhau i weithio鈥檔 breifat er mwyn ennill eu cefnogaeth.
  • Roedd yn gostus iawn - yn ei flwyddyn gyntaf costiodd y GIG dros 拢500 miliwn i鈥檞 sefydlu. Roedd yn costio 拢248 miliwn i鈥檞 gynnal, a oedd yn 拢140 miliwn yn fwy na鈥檙 disgwyl. Cafodd y 拢2 filiwn a glustnodwyd ar gyfer darparu sbectolau GIG am ddim yn ystod y flwyddyn gyntaf ei wario o fewn wythnosau, oherwydd rhoddwyd dros 5 miliwn o sbectolau yn ystod y flwyddyn gyntaf.
  • Yn 1951, roedd raid i鈥檙 Llywodraeth Lafur godi ychydig o d芒l am wasanaeth deintyddol oherwydd y costau.
  • Fe wnaeth y Llywodraeth amcangyfrif y byddai galw am tua 140 miliwn o bresgripsiynau. Cynyddodd y niferoedd o bresgripsiynau bob blwyddyn nes iddo gyrraedd 229 miliwn yn 1951. Rhoddodd hyn bwysau mawr ar broblemau economaidd y wlad.