成人快手

Adroddiad Beveridge

Yn 1941, fe wnaeth Llywodraeth Glymblaid y rhyfel sefydlu Comisiwn Brenhinol dan ofal y gwleidydd Rhyddfrydol, Syr William Beveridge, i ddarganfod pa fath o Brydain yr oedd pobl eisiau ei gweld ar 么l y rhyfel.

Enw swyddogol yr adroddiad, a chafodd ei gyhoeddi yn 1942, oedd Social Insurance and Allied Services, ac roedd yn cynnwys cynlluniau i wella Prydain ar 么l i鈥檙 rhyfel ddod i ben.

William Beveridge yn cyfarch torf mewn neuadd.
Image caption,
William Beveridge yn annerch torf yn Llundain yngl欧n 芒鈥檌 adroddiad

O ganlyniad i鈥檞 ymchwil, datganodd bod yna bum cawr ar y ffordd i ailadeiladu, sef:

  • angen 鈥 incwm digonol i bawb
  • afiechyd 鈥 mynediad i ofal iechyd
  • anwybodaeth 鈥 addysg dda
  • aflendid 鈥 tai digonol
  • segurdod 鈥 cyflogaeth enillol

Er mwyn gwella Prydain a thaclo鈥檙 pump 鈥榗awr drwg鈥 yma, cynigiodd sefydlu gwladwriaeth les.

Syniadau o Adroddiad Beveridge yngl欧n 芒 sut i daclo y pum 鈥榗awr鈥 mewn cymdeithas 鈥 gofal meddygol am ddim, addysg am ddim, gwell tai, nawdd cymdeithasol a chyflogaeth llawn.

Pam fod cymaint o wleidyddion a phobl yn dymuno sefydlu gwladwriaeth les?

Roedd pobl wedi aberthu cymaint yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedden nhw鈥檔 credu eu bod wedi ymladd i gael gwell dyfodol a鈥檜 bod yn haeddu hynny oherwydd eu cyfraniad i鈥檙 rhyfel. Roedd nifer yn credu mewn cymdeithas decach gyda:

  • gofal meddygol am ddim
  • pensiwn henoed
  • tai fforddiadwy

Y syniad oedd i gynnig rhwyd ddiogelwch i bobl o鈥檙 crud i鈥檙 bedd. Roedd yn un o bolis茂au allweddol y Blaid Lafur 鈥 fel yr addawyd hynny yn ymgyrch etholiadol 1945.