成人快手

Oes y Llymder

Gr诺p mawr o bobl yn gwenu ac yn chwifio eu dwylo o flaen eu tai teras wedi鈥檜 haddurno 芒 bynting a fflagiau.

Ar 8 Mai 1945, dathlwyd Buddugoliaeth yn Ewrop gyda llawenydd a rhyddhad cyffredinol ar draws Prydain ar 么l chwe blynedd o ymladd ac aberth. Ond, roedd y wlad a鈥檌 phobl yn dal i wynebu nifer o heriau.

Un o鈥檙 heriau allweddol oedd yn wynebu鈥檙 DU yn 1945 oedd sefyllfa economaidd y wlad.

Roedd y ddyled gwladol wedi codi o 拢760 miliwn i 拢3500 miliwn. Roedd Prydain wedi gwario bron i 拢7 biliwn, chwarter cyfoeth y wlad, ar yr ymgyrch ryfel.

Roedd y DU yn gwario 拢2000 miliwn y flwyddyn dramor, ac ond yn adennill 拢350 miliwn. Roedd benthyciadau gan America yn hanfodol os oedd economi'r DU am gael ei hadfer.

Roedd un o bob tri th欧 wedi cael eu dinistrio gan y bomio, yn ogystal 芒 nifer fawr o ffatr茂oedd a siopau. Collodd Prydain 264,433 o filwyr a 60,595 o sifiliaid yn ystod y rhyfel. Roedd nifer o bobl eraill wedi dioddef creithiau corfforol a meddyliol ac yn methu 芒 pharhau 芒 bywyd normal.

Roedd 177 o longau masnach a dwy ran o dair o鈥檙 Llynges wedi cael ei suddo, felly roedd cyflenwadau bwyd yn isel. Parhaodd dogni bwyd am 10 mlynedd arall. Arhosodd treth incwm yn uchel er mwyn helpu鈥檙 Llywodraeth dalu am y gwaith ailadeiladu.

Y cyfnod yma oedd diwedd yr ymerodraeth Brydeinig, ac roedd ei lle yn y byd wedi dirywio oherwydd ei bod yn amhosibl cystadlu 芒 grym economaidd America.

Roedd yn rhaid i鈥檙 dogni barhau oherwydd prinder bwyd a deunyddiau crai. Yn aml gelwir y cyfnod yma yn hanes Prydain yn Oes y .

Ond roedd yna beth gobaith oherwydd:

  • roedd bron pawb yn gyflogedig (cyflogaeth lawn)
  • roedd yna deimlad optimistaidd am ddyfodol gwell o ganlyniad i鈥檙 fuddugoliaeth
  • roedd yna deimlad o newid - fel y dangosodd buddugoliaeth y Blaid Lafur yn yr etholiad
  • roedd nifer yn derbyn diwedd yr ymerodraeth

Roedd yna deimlad optimistaidd yng Nghymru hefyd ar ddiwedd y rhyfel. Roedd nifer o faciw卯s, , milwyr y cynghreiriaid a merched yn y byddinoedd tir wedi profi bywyd yng Nghymru am y tro cyntaf yn ystod y rhyfel. Roedd nifer o ddynion ifanc wedi mynd 芒 straeon am Gymru i weddill y byd wrth iddyn nhw wasanaethau yn y rhyfel. Roedd hynny yn arwain at gydnabod bod gan Gymru hunaniaeth oedd yn wahanol i weddill Prydain, ac roedd pobl yng Nghymru a thu allan yn ymwybodol o hynny.