成人快手

Etholiad Cyffredinol 1945

Galwyd etholiad ar gyfer 5 Gorffennaf 1945. Daeth y pleidleisio i ben ar 19 Gorffennaf er mwyn rhoi cyfle i filwyr o dramor gael pleidleisio. Y ddwy brif blaid oedd Plaid Lafur Clement Atlee a Cheidwadwyr Winston Churchill. Erbyn hyn roedd y Blaid Ryddfrydol yn gwanio.

Dyma'r etholiad cyffredinol cyntaf ym Mhrydain ers 1935. Fe bleidleisiodd tua 24 miliwn o bobl gyda nifer fawr yn pleidleisio am y tro cyntaf.

Roedd y canlyniad yn syndod i nifer o bobl. Roedd Winston Churchill yn arweinydd llwyddiannus adeg y rhyfel ac yn arwr. Yn amlwg, roedd nifer o鈥檙 arsyllwyr wedi tybio y byddai Churchill yn fuddugol oherwydd ei r么l yn ystod y rhyfel a鈥檌 boblogrwydd. Ond, cafodd Llafur fuddugoliaeth ysgubol.

Dynes yn gosod poster ar wal. Geiriau: A non-stop drive to provide a good home for every family. Vote Labour.
Image caption,
Poster y Blaid Lafur, 1945

Rhesymau dros fuddugoliaeth etholiadol 1945

Efallai fod pobl Prydain yn dymuno gweld cyfnod o newid a鈥檜 bod yn credu y byddai鈥檙 Blaid Lafur yn cynnig gobaith ar 么l Dirwasgiad y 1930au. Roedd y Ceidwadwyr wedi tanamcanu鈥檙 teimlad yma. Er cymaint oedd poblogrwydd Churchill, roedd y Blaid Geidwadol yn cael anhawster denu cefnogwyr newydd.

Roedd y Ceidwadwyr wedi cynnal ymgyrch ddiffygiol. Drwy ganolbwyntio ar r么l Churchill yn ystod yr Ail Ryfel Byd, nid oedd hynny鈥檔 apelio at bleidleiswyr oedd yn dymuno symud ymlaen ar 么l y rhyfel. Oherwydd mai hon oedd yr etholiad gyntaf ers 1935, roedd nifer anarferol o uchel o bobl yn pleidleisio am y tro cyntaf. Nid oedd y slogan Help him finish the 'job' yn gwneud fawr ddim i leddfu pryderon pleidleiswyr.

Roedd yna hyder y byddai Llafur yn sicrhau newid gwleidyddol ac economaidd. Drwy addo cofleidio a gweithredu ar roedden nhw鈥檔 gallu ennill pleidleiswyr.

Roedd Llafur yn elwa o鈥檙 newid agwedd tuag at y system dosbarthiadau cymdeithasol a symudedd cymdeithasol oedd wedi ymddangos o ganlyniad i chwalu traddodiadau yn ystod y rhyfel, yn ogystal 芒 chred gynyddol mewn cyfleoedd i bawb.

Roedd llawer yn beio鈥檙 Blaid Geidwadol am y Dirwasgiad diweddar ac am fethu 芒 gwrthwynebu Adolf Hitler yn ystod y 1930au. Roedd ymgyrch y Blaid Lafur yn canolbwyntio ar y materion a鈥檙 gwendidau hyn.

Hefyd, gwnaeth Churchill y camgymeriad o gymharu sosialaeth Llafur ag unbenaethau gormesol, a chyfeiriodd hyd yn oed at y .

Defnyddiodd y Daily Express, oedd yn cefnogi鈥檙 Ceidwadwyr, y pennawd 鈥楪ESTAPO IN BRITAIN IF SOCIALISTS WIN鈥 ac roedd hynny鈥檔 codi braw ar nifer o bleidleiswyr.

Roedd Atlee yn deall y dyhead am newid ym Mhrydain, ac adlewyrchir hynny yn y slogan Let us face the future together. Roedd addo , ee gofal iechyd am ddim ac addysg, gwell tai a chyflogau uwch, yn seiliedig ar Adroddiad Beveridge, a gwladoli Banc Lloegr, glo, p诺er, trafnidiaeth a鈥檙 diwydiannau haearn a dur, yn denu pleidleiswyr.

Clement Attlee yn dathlu, wedi鈥檌 amgylchynu gan dorf lawen.
Image caption,
Clement Attlee a'i gydweithwyr yn Transport House, Llundain ar 么l cyhoeddi buddugoliaeth Llafur, 26 Gorffennaf 1945