Maddeuant mewn Iddewiaeth
Mae maddeuant yn gryf mewn Iddewiaeth ac yn ddyletswydd, neu mitzvahGorchymyn neu weithred dda. Y ffurf luosog yw mitzvot., y dylai Iddewon wneud eu gorau glas i ufuddhau iddo. Ceir dysgeidiaeth am faddeuant yn y Torah.
Mae Iddewiaeth yn dysgu bod bodau dynol, am eu bod wedi cael ewyllys rhydd, yn gyfrifol am eu gweithredoedd eu hunain. Os gwn芒nt rywbeth drwg, yna rhaid iddynt geisio maddeuant. Dim ond y dioddefwr all roi maddeuant.
Mae Iddewon yn rhoi pwyslais mawr ar teshuvaYn llythrennol, mae'n golygu 'dychwelyd'. Mae'n ffordd o wneud iawn ac mae'n gofyn am roi'r gorau i'r weithred niweidiol, gresynu at y weithred, cyffesu ac yna edifarhau. Yom Kippur yw Dydd y Cymod, pan fydd Iddewon yn gwneud ymdrech arbennig i gyflawni'r teshuva., neu edifeirwch. Dyma pryd y bydd Iddewon yn mynd ati i geisio gwneud iawn am eu camweddau. Gwn芒nt hyn drwy鈥檙 camau isod:
- myfyrio ar eu camweddau
- ceisio maddeuant am eu camweddau
- 驳飞别诲诲茂辞
- troi at y Torah am arweiniad