Heddwch a gwrthdaro
Gwrthdaro wedi鈥檌 drefnu yw rhyfel, ac mae fel arfer yn golygu bod gwladwriaeth neu wladwriaethau鈥檔 arfer trais grymus yn erbyn gwladwriaeth neu wladwriaethau eraill.
Beth yw achosion gwrthdaro?
Mae achosion unrhyw ryfel yn gymhleth. Nid yw rhyfeloedd bron byth yn ymwneud ag un peth yn unig. Gellir cyhoeddi rhyfel pan fydd gwladwriaeth neu wladwriaethau yn cymryd camau i:
- ymosod ar neu oresgyn gwladwriaeth arall, er mwyn ennill tir neu adnoddau
- gwrthsefyll ymosodiad neu oresgyniad o鈥檙 fath gan ymosodwr
- gwarchod gwladwriaeth arall rhag goresgyniad gan ymosodwr
- gorfodi tra-arglwyddiaeth neu newid gwleidyddol ar wladwriaeth arall, neu i wrthsefyll tra-arglwyddiaeth o鈥檙 fath
- herio bygythiad i 鈥榝uddiannau cenedlaethol hanfodol鈥 gan wladwriaeth arall
- gwrthsefyll bygythiadau canfyddedig gan ideoleg, crefydd neu gr诺p ethnig gwahanol
- amddiffyn anrhydedd cenedlaethol pan fo gwladwriaeth dan fygythiad
Gall rhyfel ddigwydd yn fewnol hefyd o fewn gwladwriaeth rhwng grwpiau trefnedig. Rhyfel cartref yw鈥檙 term am hyn.