Beth mae Iddewiaeth yn ei ddysgu am ryfel a heddwch?
Mae Iddewiaeth yn dysgu bod rhyfel yn angenrheidiol weithiau mewn hunan-amddiffyniad ac er mwyn sicrhau heddwch. Gellir ei gyfiawnhau, felly.
Yr Hen Destament
Sonnir am heddwch yn y TenakhY casgliad o 24 llyfr y Beibl Iddewig. Ceir tair adran: Torah, Nevi'im a Ketuvim (TeNaKh).. Er bod y Tenakh yn clodfori鈥檙 rhyfelwr dewr sy鈥檔 ymladd mewn rhyfel sanctaidd neu Rhyfel CyfiawnRhyfel sy'n cael ei ymladd ar sail egwyddorion athronyddol a chrefyddol penodol. y credir bod Duw鈥檔 ei gefnogi, mae hefyd yn cyfeirio at genhedloedd yn dod at ei gilydd yn gyt没n:
Mae Llyfr y Pregethwr (Ecclesiastes)Llyfr yn y Ketuvim Iddewig, rhan o'r Tenakh a'r Hen Destament Cristnogol. yn rhoi neges glir ar destun rhyfel a heddwch:
Mae鈥檙 darn hwn yn awgrymu er y bydd Iddewon bob amser yn ymdrechu i sicrhau heddwch, mae鈥檔 ymddangos bod rhyfel weithiau鈥檔 anochel o hyd. Gall hyn fod yn arbennig o wir os oes angen i gr诺p neu genedl weithredu i鈥檞 hamddiffyn ei hun neu os yw ar fin cael ei hymosod arni.
Y Deg Gorchymyn
Credir y cafodd y Y Deg GorchymynY rhestr o reolau y datguddodd Duw i Moses, sydd yn llyfrau Exodus a Deuteronomium yn yr Hen Destament. Mae'r Beibl yn cyfeirio at y Deg Gorchymyn yn syml fel 'dywediadau' neu 'ddatganiadau'. Enwau eraill ar y Deg Gorchymyn yw y Deg Dywediad neu'r Dengair., sydd wedi鈥檜 rhestru yn y Beibl Hebraeg, eu rhoi i MosesY dyn a gafodd ei ddewis gan Dduw i achub yr Iddewon rhag caethwasiaeth a mynd 芒 nhw i wlad yr addewid. Yn y Qur'an, negesydd a gafodd ei ddewis gan Dduw i roi datguddiad y Torah i'r Israeliaid yw Moses. gan Dduw. Mae鈥檙 Gorchmynion hyn i fod i greu heddwch a chytgord ymysg dynol ryw. Dyma un o鈥檙 Gorchmynion:
Petai pawb yn ufuddhau i鈥檙 gorchymyn hwn, byddai鈥檔 anodd iawn rhyfela. Am y rheswm hwn mae rhai Iddewon yn wrthwynebwyr cydwybodol. Mae gwrthwynebwyr cydwybodol yn gwrthod ymladd mewn rhyfeloedd, oherwydd credoau personol cryf yn erbyn rhyfel. Mae eraill yn heddychwyr, sy鈥檔 golygu eu bod yn credu nad oes cyfiawnhad o gwbl dros ryfel a thrais.
Pa bryd mae rhyfel yn dderbyniol?
Dylai Iddewon osgoi rhyfel ar bob cyfrif ond deallir mai rhyfel weithiau yw鈥檙 unig ffordd i ddatrys problemau a dod 芒 heddwch, pan fydd pob ymgais arall wedi methu. Gall fod angen taro i atal y gelyn rhag taro鈥檔 gyntaf. Gelwir hyn yn rhyfel rhagataliolRhyfel sy'n ofynnol er mwyn atal ymosodiad..
Mewn achosion o hunan-amddiffyn, mae Iddewon yn credu bod rhyfel yn dderbyniol, er enghraifft er mwyn i rywun sydd dan ymosodiad gael ei amddiffyn ei hun. Mae鈥檙 TalmudY fersiwn ysgrifenedig o'r gyfraith lafar Iddewig a'r sylwebaethau arni. yn dweud ei bod yn foesol dderbyniol lladd i arbed eich bywyd eich hun.
Diogelu bywyd
Mae Iddewiaeth yn dysgu bod rhaid i fodau dynol beidio 芒 dinistrio bywyd, ond ei ddiogelu. Duw greodd fywyd, ac felly Duw biau bywyd. Dim ond Duw all gymryd bywyd, nid bodau dynol. Mae cymryd bywyd yn bechod ac yn groes i ewyllys Duw.
Yn GenesisLlyfr cyntaf yr Hen Destament (y Beibl Hebraeg) sy'n disgrifio tarddiad dynoliaeth a pherthynas pobl 芒 Duw., llyfr cyntaf y TorahCyfraith neu ddysgeidiaeth. Mae modd defnyddio'r gair Torah yn yr ystyr cyfyng i olygu pum llyfr cyntaf y Beibl Hebraeg/Iddewig (Pum Llyfr Moses), a hefyd ar ystyr ehangach i gynnwys yr holl Feibl Hebraeg/Iddewig a'r Talmud., eglurir bod Duw wedi creu鈥檙 byd ar gyfer dynol ryw. Mae rhyfel yn lladd ac yn dinistrio鈥檙 hyn a wnaeth Duw ac, fel stiwardiaethDyletswydd ar fodau dynol i ofalu am y byd a chynnal cydbwysedd ym myd natur. y Cread, mae gan Iddewon ddyletswydd i warchod a gofalu am bopeth a gr毛wyd, gan gynnwys bodau dynol, natur a鈥檙 blaned.
Question
Disgrifiwch ddysgeidiaeth yr Iddewon ar ryfel a gwrthdaro.
Mae trais a lladd yn gyffredinol yn annerbyniol mewn Iddewiaeth, gan fod y Torah yn ein dysgu i ymdrechu i sicrhau heddwch: Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
Ond mae Iddewon yn credu bod rhyfel weithiau鈥檔 angenrheidiol fel dull o hunan-amddiffyn, gan y dywed y Talmud ei bod yn foesol dderbyniol lladd er mwyn arbed eich bywyd eich hun. Os yw rhyfel yn angenrheidiol, fel cam olaf, yna dylai fod yn rhyfel cyfiawn, gan sicrhau bod rhai amodau wedi鈥檜 cyflawni, fel yr amod fod pob ymgais arall wedi鈥檌 wneud i gymodi cyn troi at drais.