Beth yw Rhyfel Cyfiawn?
Mae dysgeidiaeth Iddewig yn awgrymu bod rhyfel i sicrhau cyfiawnderPan fydd rhywun yn cael ei drin yn deg. neu roi terfyn ar ormes yn dderbyniol:
Mae Rhyfel CyfiawnRhyfel sy'n cael ei ymladd ar sail egwyddorion athronyddol a chrefyddol penodol. yn rhyfel moesol dderbyniol y mae鈥檔 rhaid ei ymladd am resymau cyfiawn fel:
- gwarchod a hunan-amddiffyn
- atal drwg mwy
- da yn erbyn drwg
- adfer cyfraith a threfn
- lle mae ymdrechion wedi鈥檜 gwneud eisoes i osgoi rhyfel
Mae Iddewiaeth yn draddodiadol wedi nodi dau fath o ryfel y gellir eu hymladd ac mae unrhyw fath arall o ymladd wedi鈥檌 wahardd. Mae llawer o ddadlau ynghylch a ellir cymhwyso鈥檙 ddau fath hyn o ryfel i sefyllfaoedd heddiw.
Milchemet mitzvah
Rhyfel wedi鈥檌 orchymyn gan Dduw yw Milchemet mitzvah ac mae鈥檔 debyg i rhyfel sanctaiddRhyfel y credir bod Duw yn ei gefnogi.. Gelwir hyn yn 鈥榬hyfel gorfodol鈥 ac felly mae鈥檔 rhaid ei ymladd drwy orchymyn Duw ac er ei anrhydedd. Amodau鈥檙 math hwn o ryfel yw bod yn rhaid i鈥檙 gelyn fod wedi ymosod gyntaf. Sonnir am enghraifft o ryfel gorfodol yn yr ysgrythurau Iddewig pan ymladdodd JosuaMae Josua yn ffigwr yn y Torah ac roedd yn gynorthwyydd i Foses. Daeth Josua yn arweinydd yr Israeliaid wedi i Foses gael ei ladd. 补鈥檙 IsraeliadDisgynnydd i'r patriarchiaid oedd yn byw yng ngwlad Canaan, sydd hefyd yn cael ei galw'n Wlad Israel. i ddychwelyd i Gwlad yr AddewidY wlad y gwnaeth Duw ei haddo i Abraham (Genesis 15:18), Moses a'r Israeliaid. Mae hefyd yn cael ei galw'n Wlad Israel..
Milchemet reshut
鈥楻hyfel dewisol鈥 yw Milchemet reshut a gellid ei alw鈥檔 Rhyfel Cyfiawn. Mae鈥檔 gofyn am ganiat芒d awdurdod Iddewig. Rhaid cynnig heddwch cyn mynd i ryfel a rhaid bod wedi rhoi cynnig ar ymdrechion i osgoi rhyfel ac wedi methu. Amod arall yw na ddylid niweidio dinasyddion ac mai cyfyngedig fydd unrhyw ddifrod i adeiladau.
Yn y modd hwn mae Iddewiaeth yn dangos pryder dros bethau gwerthfawr ar wah芒n i fodau dynol. Ni ddylai Iddewon ddinistrio coed ffrwythau na dim arall sydd eu hangen ar gyfer bywyd. Byddai dinistrio鈥檙 pethau hyn yn rhwystro cymuned rhag ail-ymsefydlu ar 么l rhyfel.