The People The Poet
Ychydig iawn o fandiau sydd ag enw mor addas â The People The Poet.
Teitl ffaith | Data ffaith |
---|---|
Aelodau : |
Leon Stanford (Llais), Tyla Campbell (Gitar), Lewis Roswell (Drymiau), Pete Mills (Bas/Gitar), Greta Isaac (Llais)
|
Yn albwm cyntaf y band yn 2013, 'The Narrator', defnyddiwyd straeon llawn emosiwn a gafodd eu hanfon atynt gan eu ffans, ar destunau amrywiol fel bod yn dad, delwedd corfforol a brwydro canser, gan droi’r portreadau personol iawn hyn yn farddoniaeth wych – o ran geiriau a cherddoriaeth.
Mae'r caneuon yn gyffrous, yn adleisio Springsteen a Counting Crows. Maent hefyd yn sicr yn gynnyrch eu milltir sgwâr yng nghymoedd De Cymru, a nodweddir gan roc anthemig, melodaidd a herfeiddiol. Maent yn dilyn llwybr gwahanol drwy eu cymunedau i bobl fel Kids in Glass Houses a The Blackout, ond mae gan eu cerddoriaeth yr un ansawdd sain cyfoethog a'r un potensial i ddenu cynulleidfaoedd enfawr ar draws y byd.
(Gan Adam Walton, cyflwynydd ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Wales)