Main content

Chris Jones

Mae Chris Jones o Gaernarfon yn 45 oed ac mae’n ganwr a chyfansoddwr caneuon.

Mae Chris yn cael ei gymharu’n fwyaf aml â Meic Stevens, sy’n dipyn o anrhydedd yn wir. Ond mae'r caneuon y mae'n eu hysgrifennu a'i allu ar y gitâr yn ein hatgoffa'n fwy o Bert Jansch neu John Renbourn. Fel pob un o’r cymeriadau gwych a’r gitaryddion mawr-eu-parch hyn, mae caneuon Chris yn adlewyrchu bywyd sydd wedi bod yn galed. Pan gafodd ddwy ddamwain fawr a effeithiodd yn arw arno roedd rhaid i’w gerddoriaeth gymryd cam yn ôl. Dyna pam, efallai, nad yw ei enw a'i gerddoriaeth mor gyfarwydd ag y dylai fod.

Pan recordiodd Chris sesiwn ar gyfer rhaglen C2 Georgia Ruth ddiwedd 2013, gwnaeth harddwch dirodres a hiraethus ei ganeuon – y gwirionedd yn ei lais bariton cyfoethog – ddod â dagrau i lygaid y staff cynhyrchu a’r peirianwyr croengaled. Ac yn sicr i chi, anaml iawn y mae hynny’n digwydd.

(Gan Adam Walton, cyflwynydd ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Wales)