Gabrielle Murphy
Mae Gabrielle Murphy yn 17 oed o Dreherbert yng Nghwm Rhondda ac mae’n canu ac yn cyfansoddi caneuon.
Dyma'r enw mwyaf newydd ar restr Gorwelion, gyda'r cefndir byrraf (hyd yma). Un o bwrpasau Gorwelion yw meithrin y talentau ifanc gorau o'r cychwyn un a dyma a welir yma.
Roedd ei hymddangosiad am y tro cyntaf ar lwyfan y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc yn eithriadol yng Ngŵyl Sŵn y llynedd, ac yn sgîl ei pherfformiad cafodd wahoddiad yn syth i chwarae'n fyw y noson honno ar fy sioe ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Wales (roeddwn yn y gynulleidfa yn ei sioe Sŵn a chefais fy ngwefreiddio gan ei pherfformiad ardderchog.)
Dechreuodd Gabby ganu yn y tŷ, gan symud yn gyflym i fod mewn bandiau lleol (pan nad oedd ond yn 13 oed). Bellach mae’n canolbwyntio ar ysgrifennu ei chaneuon ei hun. Mae’n adlewyrchu natur eclectig naturiol ei chenhedlaeth, gan gwmpasu amrywiaeth o genres (Led Zeppelin i Marvin Gaye ynghyd â sain melodaidd Fleetwood Mac a hyder Rihanna).
Mae ei recordiad mwyaf diweddar, ‘Lockdown’ yn siŵr o fod yn sengl lwyddiannus, un o’r achlysuron prin hynny lle mae cerddoriaeth R&B fodern yn ymhyfrydu yn ei gwreiddiau dwys mewn Rhythm & Blues.
(Gan Adam Walton, cyflwynydd ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Wales)Â