Cerddi Rownd 1 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Crynodeb o 2023
Beca
Llifodd dyfroedd brwnt
a stompiodd streicwyr ar strydoedd oer.
 chwinc yr haul
fe’m dallwyd gan glityr coroni.
Taflodd yr Hydref hen wynebau i lys
eu hesgusodion a’u sgubo o’r neilltu.
Â’r flwyddyn yn crino
saif sgerbydau du yn Gaza:
syrth y lludw’n wyn ar y meirw
fel lluwch o eira.
Rhiannon Iwerydd 9
Beirdd Myrddin (AE)
Daeth Cameron nôl a’r Beatles,
daeth Barbie nôl â’i nwyd,
ond cymbac o’r holl gymbacs
oedd cymbac Alan Llwyd.
Lowri Lloyd 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw frid o gi
Beca
Fel plisman, rhaid i sbaniel
Ddal yn dynn yr hyn mae’n hel.
Eifion Daniels 8.5
Beirdd Myrddin (JGJ)
Bwli dof yw’n “Pit- bull” del
o’i roi’n sboner i’n spaniel.
Eleri Powell 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Wrth syllu i dd诺r y rhaeadrau’
Beca
Wrth syllu i dd诺r y rhaeadrau,
Gofynnais i’r d诺r “Sut mae pethau?”
Atebodd: “Yn crap!
‘R ôl gwasgiad drwy’r tap
Dwi’n Lerpwl, yn fflyshio toiledau!”
Lefi Dafydd 8.5
Beirdd Myrddin (GR)
Wrth syllu i dd诺r y rhaeadrau
tra’n Canada draw ar fy ngwyliau,
â’r d诺r gwyn dros y graig,
fe holodd rhyw wraig,
“Viagra?” “Not now!” gwaeddais innau.
Geraint Roberts 8.5
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Tynnu’r Addurniadau
Beca
Dim ond gwagle lle bu’r lliw.
Ni feddaf ond cof heddiw
O’r wefr a’r oriau hyfryd
Gynnau fach; waeth gwyn o fyd
Oedd fy myd mor glyd a glân,
Yn peintio o gylch y pentan.
Yn nanne’r ddrycin heno,
Bregus, peryglus pob bro,
A’r Dinam heb fam, heb fwyd
Heb glydwch elwch aelwyd.
O! fyd hurt, fel sawl treftâd,
Fel unnos eu diflaniad.
Eifion Daniels yn darllen gwaith Wyn Owens 8.5
Beirdd Myrddin
Daw o raid lawr staer i’r 诺yl
a’i esgus yn ei disgwyl.
***
Hon yw g诺yl y drws ‘di’i gau
a neithiwr yno’n greithiau;
yn ei law ei hangel hi
a’r sêr bu’n eu trysori,
gleiniau aur a’r galon wen
yn wydyr dan y goeden,
ei hanrheg swil yn chwilfriw
a’i fory hi yno’n friw.
***
Hwn yw dydd newyddion da
… a noswyl y tro nesa’.
Aled Evans 9.5
5 Pennill ymson mewn gwasanaeth plygain
Beca
Ar gyfer y Nadolig
Fe geir ym Methlem Jiwda
Weiren bigog hyll o gylch
Y Mab ar fron Marïa.
‘Rol gwrando geiriau’r garol
Daw’r co’ o’r wylo’n Rama:
Dagrau’r mamau ddeil o hyd
Tra coch y pridd yn Gaza.
Rachel James 9
Beirdd Myrddin (GR)
Parodi i’w ganu ar alaw’r hen garol
Ar gyfer heddiw’n boring/ canu’n fflat, rat-tat-tat,
a’r parti nesaf wedyn/ mor whit-what.
I’r swper yr âf innau,/ ond para mae’r carolau
nes diffodd y canhwyllau,/ batris fflat, damo, drat!;
yn joio fy mrechdanau/ ar y plât.
Geraint Roberts 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Dadl
Beca
A’i deyrnasiad bron ar ben, diflasai Drakeford,
Roedd ei swydd mor hawdd â phob un mor sidêt.
 Jeremy Miles y rhannodd ei feddyliau -
Dywedodd: “Fab, mae gen i syniad grêt....”
“Dwi eisiau dod â dadlau chwyrn i’r wlad ma,
Hoffwn ddilyn llwybrau f’arwyr, Truss a Trwmp!
Os gosodaf gyfyngderau ar gyflymder,
Gall neb ddweud ‘mod i’n ddi-sbarc, yn llyw di-swmp!
Gallaf weld y ddrama nawr – bydd RT Davies
Yn bloeddio “Blanket! Blankets!” mas o’i dîn,
A mawr fydd hwyl gweld beirdd ar-lein yn rhegi
Ar provocateurs a iobs o dros y ffîn.”
“Yn wir, fy nhad” medd Miles, “roedd pawb yng Nghymru
Yn barod iawn i ti eu rhoi dan glo
Ond bydd diawl o reiat gwyllt o Fôn i Fynwy
Os ofynni di i’r hambons yrru’n slô”
“Ond un peth, fy nhad” medd Miles, “pan ddaw y dadlau,
A ni ein dau dan lach moduraidd ddrycin
Byddai’n fuddiol, oni fyddai, tasem ninnau
Yn rhoi y bai yn gyfan gwbl ar Vaughan Gething?”
Lefi Dafydd 8.5
Beirdd Myrddin (AE)
Mae ‘ngwraig yn fenyw radlon, mae bron â bod yn giwt
ond hi a dry’n anghenfil wrth fwrdd Trivial Pursuit.
Bob diwrnod sydd i’r flwyddyn mae’n gymar hynod ffein’
ond pan ddaw dydd Nadolig mae’n troi’n Saddam Hussein.
Mae’n dysgu ffeithiau random a phob manylyn sych
fel pwy oedd bês gitarist i’r combo Talcen Crych.* (ED)
Bob Tachwedd mae’n diflannu i westy Delwyn Siôn,
sy’n bach o dymp mae’n debyg - un seren nôl y sôn.
Ac yno ma’ hi’n binjo ar Countdown a Jacpot
- mae’n gwybod ystyr ‘lliaws’ sydd yn golygu lot.
Ond ‘leni daeth ei mam i chwarae’r gêm trwy’r ddôr
- saith awr a hanner wedyn cyfartal oedd y sgôr.
A’r datglwm i derfynu y frwydr hyd at wa’d -
“Pa un o brifeirdd Cymru a gapiwyd dros ei wlad?”
“Wi’n gwbod” meddai ngwraig i, “Gruff Sol yw bardd y cap”.
Ond meddai’r fam llawn hyder, “Cynigiaf Myrddin ap”.
Edrychais innau arnynt gan ddweud, “Chi’ch dwy yn rong.”
A’r bwrdd a godwyd ganddynt fel llun o’r ffilm King Kong.
Cyn iddo gael ei ollwng, ni chefais ddweud fel hyn
mai’r bardd gas gap dros Gymru yw’r Prifardd …
Aled Evans 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Rhaid o hyd cael cefnwr da
Beca
Heddiw i dîm a lwydda
Rhaid o hyd cael cefnwr da
Eifion Daniels
Beirdd Myrddin
Rhaid o hyd cael cefnwr da
Yn sydyn ymosoda
Geraint Roberts 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ymddiheuro
Beca
Gwyddwn dy enw cyn dy ddyfod.
Fe’th enwaist yn fy nghroth
ar ddechrau‘r daith a gosod seiliau.
Wrth deimlo dy gryniadau pili palaidd
breuddwydiwn amdanat
yn gwibio rhwng petalau coch yr ardd
dan wybren glir.
Ond pan fo’r nos yn frwnt o waed
A ‘r gynnau’ n cau amdanom,
mae’r awyr a’i sêr yn syrthio
i wawr o domenni concrit
a sachau gwynion y piwpaod marw.
Yn llawenydd dy greu
ni welais y llwybrau’n faglau,
na’r dwylo’n cloi fel dyrnau.
Rhiannon Iwerydd 9.5
Beirdd Myrddin (LLl).
Â’i botel lawn piti
a’r llygaid lliw niwl,
mae’n consurio’i ‘sori’.
Rhyw lanast gonest ydyw
bob tro, na ddigwyddith eto,
sbo …
Plicia’r label yn beli bach
i’w rholio’n rhy rhwydd
i’w rhwyd; ac ewin a bawd
yn plisgo cydwybod.
Cymer lymed arall
o’i gasgen esgusodion
ac addo gantro … “Naddo!”
Cyn llyfu’r un diferyn strae
sy’n bygwth llifo hyd ei en.
Yna, mae’n rhoi gwên
ac estyn iddi’r botel wag
i’w hailgylchu.
Lowri Lloyd 9.5
9 Englyn i unrhyw elusen benodol
Beca
T欧 Hafan
Os llym a phoenus yw llach yr eigion
Ar gregyn y gilfach,
Mi wn am draeth helaethach
 mwythau i’w berlau bach.
Rachel James 9.5
Beirdd Myrddin (JGJ)
Tir Dewi
Gobaith i’r llwm ei ‘sgubor - i’r unig,
arweiniad a chyngor;
â nawdd hael agorwn ddôr
gwlad amaeth o’i gwael dymor.
Eleri Powell 9