Cerdi Rownd 1 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Arwydd neu boster mewn ysbyty
Talybont (AP)
Nid yw eistedd yn eich poenau
yn beth braf, mi wn, am oriau;
Gwell bod yma’n ddiamynedd
na bod yn y morg yn gorwedd.
Anwen Pierce 8.5
Arglwydd de Grey
Cewch, os ydych yn wael, / Weld doctor, os oes un ar gael.
Cewch sgwrs gydag un / Nad yw’n dallt eich iaith eich hun.
Cewch aros oriau’n A&E,/ Hynny bron yn garanti.
Cewch ofal iawn,/ Os nad yw’r ward yn rhy llawn.
Cewch her a hanner, cewch myn Duw,
Os ydych am ddod o fama’n fyw.
Arwel Emlyn Jones 8
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘bys’
Talybont (AP)
O bell, hawdd yw pwyntio bys
at y brwnt o’n t欧 breintus
Anwen Pierce 8.5
Arglwydd de Grey
I’r Swyddfa Bost, job gostus,
Oedd mentro i bwyntio bys.
Steffan Tudor yn darllen gwaith Arwel Emlyn Jones 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae pawb erbyn hyn yn lled amau’
Talybont (PD)
Mae pawb erbyn hyn yn lled amau
Fod moch yn gwirioni ar berlau.
‘Na pam rydwyf heno
Yn barod i fentro
Eich ticlo wrth daflu’n rhai innau.
Phil Davies 8
Arglwydd de Grey
Mae pawb erbyn hyn yn lled amau
Yr arlwy a safon Steddfodau,
Prisiau drud ym mhob siop
A cherddoriaeth hip-hop
A methu rhoi stop ar y corau.
Dyfan Phillips 8
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Yswiriant
Talybont
(dywedodd Mark Drakeford mai polisi yswiriant yw bod yn rhan o’r Deyrnas Unedig)
Yn bur aml dan bremiwm
â’r holl aur o’n coffrau llwm
i’r asiant, gwariant ar goedd
a rifwyd dros ganrifoedd.
Ewyllys barus ei byd
bia’r môr, bro a moryd,
d诺r glaw’r ucheldir gloyw
daw o fawn cymuned fyw.
Hawlia awel a’i hawyr,
erwau dôl, ei glo a’r dur.
I dithau, fy nghymdeithas,
dylai am hyn dalu ma’s.
Gwenallt Llwyd Ifan 9.5
Arglwydd de Grey
Byw ar fynd, mor braf yw hi,
Heulwen, golygfa'r heli,
A dim ots am y byd mawr,
Byw i yrru heb oriawr.
Olwyn amser a erys
Un tu hwnt o frwnt ei frys,
Mae mynd a mynd, ffyrdd bob man,
Yn gallu rhedeg allan.
Â'r niwl ar hen gorneli
Ein Tad nid oes garanti,
Awn â ffydd dros fryn a phant
I orwel, heb yswiriant.
Arwel Emlyn Jones 9
5 Pennill ymson wrth aros am fws
Talybont (PT)
Rwy’n fethu dreiglo am thoffi,
y feddal ddwi dim yn ei hoffi,
y nhrwynol sy’n lot mhwy yn wath,
rhaid i fi rhoi fwythau i’r cath.
Ond ble mae hi? Ddwi angen ei sws ...
“Fws, Fws, fws, fws fws, fws.”
Phil Thomas 8.5
Arglwydd de Grey
Yma rwyf ar ben fy hun
Yn disgwyl bws Llandudno,
Pan ddaw rhyw ddyn a holi’n gl葒n
“Di’r bws di cyrraedd eto?”
Brathu’n nhafod rhaid I mi
Rhag bod yn gas â’m cyd-ddyn,
‘Sa’r bws di dod fyswn i
Ddim dal fan hyn y twpsyn!
Dyfan Phillips yn darllen gwaith Huw Dylan 8.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Canllawiau
Talybont (PD)
Mae’n flwyddyn lecsiwn eto – meddyliwch! Fflipin hec,
Rhaid dweud y drefn cyn byddaf yn pechu’r Bî Bî eC,
Cans pan ddaw’n amser ymgyrch bydd rheolau fesul pwys
Yn rhwystro bois fel finnau rhag dwedyd dim o bwys.
Bydd dim modd slamo’r Tories am rhacso’r wlad i gyd
A gwneud ein teyrnas shimpil yn destun sbort drwy’r byd.
Ni fedrwn mewn etholiad feirniadu Starmer pinc,
Am olchi egwyddorion y cochion lawr y sinc.
Bydd dim modd gweiddi ‘celwydd’ ar Dim Libs, na fydd wir,
Na’u polisïau hyblyg sy’n newid fesul sir.
Bydd rheol rhag beirniadu y Blaid o Went i Fôn.
Ni fydd yr opsiwn niwclear yn bosib, ’nôl y sôn.
Bydd angen menig meddal cyn taflu dwrn neu ddau
At Wyrddion hunangyfiawn, unwaith mae’r drws ’di cau.
Pan welir propaganda yn cyrraedd rownd y rîl,
Gan ryw Brydeiniwr cibddall, rhaid tewi yn ei sgil.
Os gwelir Nige neu Boris, neu Liz yn gwneud cym bac,
Canllawiau fydd yn rhwystro pob bardd rhag bod yn grac.
Rwy’n sori os anghofiais i slamo’ch pleidiau chi –
Bydd rhestr llawn ohonynt ar safle’r 成人快手.
Phil Davies 8.5
Arglwydd de Grey
Rheolau i’r gwirion, canllawiau i’r call,
Gorfodi wna un, cynghori wna’r llall.
Does dim rhaid gafael mewn canllaw ar risia,
Eich dewis chi ydyw a’r canlyniada.
Dyma ni felly un neu ddau o gynghorion
I wneud bywyd yn haws a llai o bryderon
Rhaid derbyn bod bywyd yn newid yn sydyn
Ti weithiau yw’r glomen, dro arall y cerflun.
Os nad wyt yn gwybod lle ma’r plant yn y t欧
Wel diffodd y w葒, fe ddont I’r golwg yn llu.
Os oes ‘t欧 bach’ yn dy freuddwydion rhyw dro
Er dy les dy hun paid a’I ddefnyddio fo.
I osgoi sefyllfa go chwithig wrth dalu
Caria gerdyn ac arian mewn siop neu fwyty.
Os wyt ti am ddangos dy bwysigrwydd anhepgor
Gofyn I rywun dy ffonio mewn pwyllgor
A chofia ar ‘Facebook’ roddi lluniau di-ri
A phob un yn gweiddi wel ylwch chi fi.
Ac un canllaw bach wrth fynd drwy’r byd ar ein taith
Cofiwch bod mwy I fywyd na dim ond gwaith.
Arwel Emlyn Jones yn darllen gwaith Huw Dylan 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Ym mar y nos ymrown ni
Talybont
Ym mar y nos ymrown ni
I’w harddwch iaith ein cerddi
Gwenallt Llwyd Ifan 0.5
Arglwydd de Grey
Ym mar y nos ymrown ni
Yn dân rhaid mynd amdani
Steffan Tudor
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Pwyllo
Talybont (PT)
Mwythai ei ên
cyn crafu ochr ei drwyn a syllu i’r llawr
lle roedd ei draed yn hynod, hynod o ddiddorol.
Roedd ei fochau yn boenus
o’r sylwadau di-hid
a’i bigodd fel gwybed.
Teimlai ei ymateb yn llenwi yn ei geg,
sillafau’n ffurfio ac yn llosgi’i dafod.
Ond blas chwerw oedd i’r geiriau,
ac er cymaint y byddai ei chwydu yn un floedd yn ei blesio,
fe lyncodd ei boer.
Gwyddai byddai gollwng y fath wenwyn
yn rhyddhad,
ond unwaith ar adain
doedd dim rheoli geiriau’r drin.
Taw piau hi.
Phil Thomas 8.5
Arglwydd de Grey
(Mae’r gerdd hon i’r disgyblion rheini dwi wedi ac yn eu dysgu, sy’n ceisio ymdopi gydag ADHD.)
Mae Syr newydd ddweud ‘mod i ar gyfeiliorn,
Ond Miss, ma’ mrên i fel peiriant gwneud pop corn.
D’i o jest ddim yn dallt, dwi’n trio cyfri i ddeg
Ond cyn cyrraedd tri, wel, dwi di agor fy ngheg,
Ac mae’r geiriau di dianc, fel bwledi’n saethu,
Cyn ‘styried y cwestiwn, a ‘dwi eto ‘di methu
Rheoli fy hun. Ac er ymdrechu bob tro
Mae trio llonyddu yn fy ngyrru o ‘ngho,
Cyhyrau yn gwingo, cyn i nhraed ddechrau tapio.
Mae yntau wedyn yn cael cyfle i 'nwrdio.
Pan aeth y bêl dros y ffens ac i ganol y traffig
Wrth lamu i’w nôl, wnes i’m meddwl am beryg.
Fel arfer dwi’n gwneud ac wedyn dwi’n meddwl
Gan ganfod fy hun yng nghanol pob trwbwl.
Dwi’n trio ngorau i bwyllo, ydw wir yr
Da chi’n dallt ADHD, plîs ‘sboniwch wrth Syr.
Eleri Jones 9
9 Englyn: Llosgfynydd
Talybont (GLlI)
Ai Daeareg yn ystwyrian – lluchio’r
cwmwl llwch a brwmstan?
Neu ynys Jörð ei hunan
yn rhyddhau dagrau o dân?
Gwenallt Llwyd Ifan 9.5
Arglwydd de Grey
Drwy'r ddaear ddofn rwy'n ofni'r - wylofain
Fel lafa sy'n corddi
Hyd waelod fy modoli,
Yr wyf ofn y ffrwydraf i.
Arwel Emlyn Jones 9