Cerddi Rownd Cyn Derfynol 2024
1 Pennill Bachog (rhwng 4 ac 8 llinell): Adroddiad ysgol unrhyw ffigwr hanesyddol
Beirdd Myrddin
Hen Fenyw Fach Cydweli
Mae Siân yn ferch garedig/sy’n hoff o chwarae siop;
o ran ei sgiliau rhifo/nid ydyw ger y top.
Mae’n un sy’n dda am rannu,/ond rhaid ymdrechu’n well
i ddeall grym y farchnad/neu aiff hi ddim yn bell.
Geraint Roberts 9
Tir Iarll (TDJ)
Neil Armstrong
Anelu’n uwch a ddylai,
Nid da lle gellir gwell,
Mae’i ben o’n y cymylau
Ond O!, mi eith o’n bell.
Tudur Dylan Jones 9.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys gorchymyn
Beirdd Myrddin
Na fyn air i glwyfo neb,
na swyna â chasineb.
Lowri Lloyd 9.5
Tir Iarll (ED)
Aed, O aed, nid yn oediog
Teresa May, Truss a Mogg.
Emyr Davies 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Nid oeddwn am ddweud yn gyhoeddus’
Beirdd Myrddin
Nid oeddwn am ddweud yn gyhoeddus
fy mod wedi bod lawr i’r bwcis,
rhoi ‘fiver each way’
ar Dylan a Nei
i adael ‘ma heno’n anhapus.
Eleri Powell 8.5
Tir Iarll (AK)
Nid oeddwn am ddweud yn gyhoeddus
cans bu’r trefniant yn un mor lwyddiannus,
Ond mae’r dydd wedi dod
I dderbyn y clod
Am gôst-reito i Ceri mor gampus.
Aneirin Karadog 8.5
4 Cywydd (rhwng 12 ac 18 llinell): G诺yl
Beirdd Myrddin
Tafwyl
Daw o Sblot grwt a chroten
heno’n dân, yn gân a gwên.
Dônt hwy i ail-godi’n t欧
i’w furiau ddal yfory.
Morio bît y drwm a’r bas
yn donau trwy eu dinas;
s诺n eu halaw’n un llawen,
yn dwrf iaith, yn ail Dref Wen;
a’u Helái’n ailoleuo.
O dwrw’r rhain awn am dro -
awn i Fôn a’i chael yn fedd,
di-gannwyll ydyw Gwynedd,
a mudan yw cân Conwy;
damia iaith ein Dyfed mwy.
Dewch nawr â’ch rêf o’r dref draw
i Heledd gael ei halaw,
rhoi ras ar frys i’r fro hon
i Dafwylio’r adfeilion.
Aled Evans 10
Tir Iarll (ED)
G诺yl Llangollen
Wrth gamlas, y ddôl lasaf
Yw lle’r 诺yl ers llawer haf
A daw dawns Dyfrdwy ei hun
Yn frwd i’r stryd fawr wedyn.
Llifa holl fwrlwm llwyfan
Drwy’r gât lawr i’r dre â’r gân
I fod ynghanol tyrfâu
Sydd yn wledydd o flodau.
Mae gorymdaith o ieithoedd
I’w gweld a’u clywed ar goedd
Ac er ei rhwysg, yn ei gwraidd
Ni fu g诺yl yn fwy gwylaidd -
Heddwch yw’r gytgan iddi
A themâu ei hanthem hi;
Nodau gwell rhag byd o’i go’
A gawn mewn byd a gano.
Emyr Davies 10
5 Triban beddargraff : Ysgrifennydd eisteddfod leol
Beirdd Myrddin
Wrth weld ei shifft yn gorffen
cofnododd mewn llaw gymen
fanylion llawn y byd a ddêl
a’u rhoi dan sêl mewn amlen.
Eleri Powell 8.5
Tir Iarll (TDJ)
Yr ysgrifennydd lleol
A wyddai bob un rheol
Gan gynnwys hon, fod Barn ein Tad,
Fel Beirniad, yn derfynol.
Tudur Dylan Jones 9
6 Cân ysgafn: Hacio Cyfrifiadur
Beirdd Myrddin (IRh)
Ces femo cyfrinachol gan Mrs. Jones y Co’p
bod bigwigs yr Eisteddfod ‘di llygru reit o’r top.
Roedd honno wedi hacio i’w system yn reit rhwydd
rôl derbyn gwers gan Loti, ei hwyres oedd yn flwydd.
Mewn dogfen ‘Crikey Moses’ roedd cyfrinachau’r crach
fel ble oedd ffindo toiled â phapur i’r t欧 bach,
beth wneir â’r deyrnwialen ar ddiwedd pob un shifft
a phwy fyddai’n Archdderwydd rôl cyfnod Taylor Swift.
Cas afael ar dystiolaeth a lluniau fideo byw
o’r Orsedd mas yn joio mewn clwb yn ochre Crewe.
Ac yno ar y dancefloor roedd bardd coronog Fflint
yn noeth ond am ddwyfronneg yn troelli’n gynt a chynt.
Cyfeiliai’r ddau ffanfferydd i seiniau Megadeath
rôl llenwi y Corn Hirlas â llwyth o chrystal meth.
Bardd y dwbwl entendre oedd nesaf ar y sgrîn
yn gofyn am un arall, a fe a gafodd un.
Rhyw Sais â lisp ofynnodd, ‘Druid give me a thong.’
‘Wrth gwrs,’ atebodd honno, ‘Have this one I’ve got on.’
Fe brynwyd fy nhawelwch, ni allaf ddweud dim mwy
- ond wotjwch pwy gaiff gadair mewn blwyddyn fach neu ddwy.
Aled Evans 9.5
Tir Iarll (MH)
Mae hacio cyfrifiadur yn galw am gryn sgil,
ond er mwyn lles y talwrn mi haciais Fac John Gwil.
Roedd gen i reswm dilys, tip-off gan MI5
yn sôn fod rhywbeth doji ar ffeils ei 诺gl-ddreif,
rhyw hen amheuaeth ddiflas a chas beyond (tu hwnt)
fod 'beirdd' honedig Myrddin yn chwarae braidd yn frwnt.
Fe haciais fel nas haciwyd na chynt na wedyn, glei,
a dyna sioc oedd canfod fod ynof ddeunydd sbei.
Eleri: rhoddais gynnig ar enw cynta'i mab,
a Geraint: Bos? Neu Gapten? Na'n syml iawn: Y Pab;
am Aled: Man United? W! Agos: Georgie Best;
a Lowri: Ioan Mathews; a John: dim ond Parc Nest.
A wedyn, at y perfedd a dechrau tynnu mas
bregethau, myfyrdodau a chofnod bets Ffos-las;
ac yna 'ping' ces neges: 'mae rhywbeth bach yn od,'
medd pennaeth y Fraud-Office, 'we sense the hand of God'.
A wir i chi, roedd cerddi yr ornest ar ei hyd
yn dangos ôl track changes y Pencerdd mwya'i gyd ...
Ystyria - wnei di Feuryn? - cyn rhoi i'r lleill y deg:
smo Dwyfol V Meidrolion yn ornest whare teg.
Mererid Hopwood 9.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Y mae’r smotyn gwyn mor gas
Beirdd Myrddin
Un atgof sy’n fwy atgas
Y mae’r smotyn gwyn mor gas
Geraint Roberts
Tir Iarll
Hyd erwau’r hymns and arias
Y mae’r smotyn gwyn mor gas
Aneirin Karadog 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ffugio
Beirdd Myrddin
Bore Nadolig
Yn fy ngharffed,
mae dwy law fach
yn ymbalfalu ...
yn prysur ddyfalu
i ba dwll y mae’r sgwaryn i fynd;
yngholl ymhob munud o’r hud.
Ac ymhen dim,
dan y trwch papurach
mae’r un bore bach blynyddol
wedi claddu’i gelwydd eto,
a’r ailgylchu eisoes ar waith.
Ond, er hyn, mi wn y daw'r
dydd i ddatod y tâp selo
fu’n gludo'i breuddwydion cyhyd,
gan geisio parselu o’r newydd
siâp y byd
sy'n ei disgwyl hi.
Lowri Lloyd 9
Tir Iarll (GD)
Chwaraeaist y rôl yn ddi-feth, rhaid
cyfaddef: y pen moel a’r bêl-droed,
ymweld â’r llefydd priodol fel y dafarn
a’r clwb bocsio a’r gym. Ti oedd brenin
y golygfeydd hyn, fel yr oeddet yn yr ysgol,
yn cario i bobman dy brops ystrydebol –
sgwter, trainers gwyn, sigarét,
y tei wedi’i glymu’n hurt
rownd dy ben. Roedd ’na wmff i’r chwerthin croch
ar ôl cael dy ddiarddel, ac yn ddiweddarach
pan gaeodd y ffatri a chollaist dy swydd
yn ddisymwth – mor rhwydd
yr ymroist i ffwlbri dibryder dy gymeriad,
mor fedrus y cedwaist ei fwgwd
amdanat. Bravo! A chwaraeom ninnau’n rhan
drwy esgus bod popeth yn iawn.
Aneirin Karadog yn darllen gwaith Gwynfor Dafydd 9
9 Englyn: Casgliad
Beirdd Myrddin
Nid tâl cydnabod dyled – ond o’r llaw
nad yw’r llall i’w gweled,
ac allor na 诺yr golled,
na 诺yr fyth pa fory a fed.
John Gwilym Jones 9.5
Tir Iarll
Drannoeth yr Etholiad
O orsaf i orsaf yr â - dau yn dri,
dod yn drên, yn dyrfa
ar y daith, a’r bore da
yn mynd ag Ann Bremenda.
Mererid Hopwood 9.5