|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Coch Bach y Bala – ‘Yr Houdini Cymreig’ |
 |
Ceisiodd Coch Bach Y Bala ddianc o garchar am yr ail waith ym 1900 tra'n disgwyl cael ei drosglwyddo i garchar Dartmoor o Garchar Caernarfon. Roedd Jones wedi ei gyhuddo o ddwyn £10 o'r Waterman's Arms, Amlwch, ym Mrawdlys Biwmares, ac roedd wedi mynnu iddo gael ei 'fframio' gan yr heddlu. Yn wynebu dedfryd hir arall, cododd Jones faricêd tu ôl i ddrws ei gell gyda rhannau o'r wŷdd gwehyddu oedd yn ei gell, a dechreuodd dwnelu drwy'r llawr. Methodd ei ymgais, felly dechreuodd ar ddedfryd hir arall yn y carchar.
Carchar Sirol Rhuthun - Rheolau ar gyfer y Carcharorion "Bydd pob carcharor fydd yn euog o unrhyw un o’r troseddau canlynol yn wynebu cosb: Ceisio dianc, neu helpu eraill i wneud hynny, neu wybod am unrhyw ymdrech arfaethedig i ddianc ac heb gyflwyno adroddiad am hynny’n syth"Rheolau ar gyfer Carcharorion yng Ngharchar Rhuthun, circa 1850 |
|
Treuliodd John Jones dros hanner ei fywyd yn y carchar, gyda 10 gwahanol gyhuddiad am ddwyn, torri i mewn i adeiladau, ac, ar un achlysur, am godi terfysg yn erbyn yr Heddlu yn y Bala. Roedd yn hynod o 'wrth-heddlu', ond roedd ei ymddygiad yn y carchar yn gyffredinol dda (ag eithrio'r diangfeydd) yn aml yn cael ei ryddhau'n gynnar ar drwydded.
O ddeallusrwydd uwch na'r cyffredin, cyflwynodd Jones ei amddiffyniad ei hun ar sawl achlysur. Ym 1906, cafodd ei gyhuddo o ladrad ac ymosod yn ffyrnig ar ddynes 71 mlwydd oed. Yn yr achos dedfrydu, bu'n rhaid i'r llys Ynadon eistedd tan 3 am oherwydd hyd araith y diffynnydd i'r llys. Yn anffodus i Jones, ni lwyddodd yr araith hir ei achub rhag cael ei garcharu am 7 mlynedd yng ngharchar Dartmoor, o’r lle y cafodd ei ryddhau ym Mis Ionawr 1913.
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|