|  |
 |
 |
 |
 |  |
 © 成人快手
|
|  |  |
Coch Bach y Bala – ‘Yr Houdini Cymreig’ |
 |
O'r galwedigaethau amrywiol y bu John Jones yn eu dilyn - briciwr, saer coed, labrwr, morwr a thaniwr - roedd yn fwyaf enwog am ei botsio a'i ddwyn parhaus, a olygodd ei fod mewn trafferth rheolaidd gyda'r Gyfraith. Ers pan oedd yn ifanc, arferai ddwyn amrywiaeth o bethau, nifer ohonyn nhw o ddim gwerth o gwbwl iddo, ac arferai eu cadw mewn waliau neu gloddiau, a dychwelyd i'w casglu yn nes ymlaen.
Arferai Jones frolio am ei anturiaethau, yn aml yn mynnu ei fod wedi dwyn pethau nad oedd wedi eu dwyn mewn gwirionedd. Parhaodd y tueddiad i dynnu sylw ato'i hun nes iddo dyfu’n ddyn, a'r adeg honno achoswyd ei ddinistr gan y tueddiad i siarad yn gyhoeddus am ei anturiaethau diweddaraf.
Dihangodd Jones o'r carchar am y tro cyntaf ym Mis Tachwedd 1879, pan oedd yn disgwyl i sefyll ei brawf yng Ngharchar Rhuthun am ddwyn 15 oriawr yn y Bala a Llanfor. Un noson fe agorodd ddrws ei gell ei hun, yn ogystal â drysau tair cell arall, cerddodd allan drwy prif ddrws y Carchar tra roedd y staff yn cael eu swper ac aeth allan i'r nos. Cynigiwyd gwobr o £5 am ei ail-gipio, ac, o'r diwedd, fe’i daliwyd dri mis yn ddiweddarach yn y gwely yn y Swan Inn, Mochdre ger Bae Colwyn. Tybed a oedd hyn o ganlyniad i wybodaeth gafwyd gan gwsmer a ddigwyddodd glywed straeon Jones yn y Swan Inn y noson honno?
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|