|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Capeli, tai te a gauchos: Y Cymry ym Mhatagonia |
 |
Patagonia: Cymru Fach 8,000 o filltiroedd i ffwrdd
Erbyn troad yr 20fed ganrif, wedi’r Cymry sefydlu presenoldeb Ewropeaidd ym Mhatagonia, daeth llywodraeth yr Ariannin i mewn, dweud muchos gracias, cymryd rheolaeth uniongyrchol a diffodd ymreolaeth lywodraethol ac addysgol y Wladfa. Yn eironig, digwyddodd hyn wrth i’r iaith Gymraeg gael ei chaniatáu, yn amharod iawn, yn y system addysg yn ôl yng Nghymru lle mae chwarter o’r holl blant bellach yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Yn y Wladfa, golygodd rheolaeth uniongyrchol ddiwedd ar y Gymraeg mewn llywodraeth leol ac yn yr ysgolion, a dechrau llif o ymfudo Sbaenaidd a Ewropeaidd eraill a arweiniodd at y Cymry’n bod yn lleiafrif yn y wladfa roedden nhw wedi’i sefydlu.
Dylai’r breuddwyd wedi dod i ben ar y pwynt yna, gyda’r Cymry’n cael eu cymhathu ymhen cenhedlaeth. Er gwaethaf pob disgwyl, parhaodd. Sawl cenhedlaeth ar ôl yr ymfudwyr cyntaf, gellir clywed yr iaith Gymraeg o hyd ym Mhatagonia.
Er gwaethaf peidio â derbyn unrhyw ymfudwyr pellach o Gymru ar ôl 1914, ac er gwaethaf y system addysg uniaith Sbaeneg, daliodd y Gymraeg i fod yn iaith y cartrefi, y capeli a’r eisteddfodau.
A phan ddechreuodd ddangos arwyddion o ddirywiad difrifol, yn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif, yn annisgwyl iawn cafodd ei adfywio. Oherwydd teithiau awyrennau rhatach aeth cysylltu â Chymru’n haws. Dechreuodd llawer mwy o bobl o Gymru ymweld â’r lle. Cymerwyd camau i gefnogi’r iaith yn yr hunig gadarnle tu allan i Gymru.
Ym 1996 dechreuodd y Swyddfa Gymreig raglen, sy’n parhau o dan y Cynulliad Cenedlaethol, lle mae grwpiau o athrawon yn treulio blwyddyn yn y Wladfa’n dysgu’r iaith i’r bobl. Mae rhyw 700 o bobl wedi cofrestru ar hyn o bryd mewn dosbarthiadau. Mae nifer syfrdanol yn mynd yn rhugl. Mae prosiect rhyngrwyd y Cyngor Prydeinig yn cadw’r grwpiau o ddysgwyr mewn cysylltiad â Chymry Cymraeg yn ôl yn yr henwlad. Mae technoleg yr 21ain ganrif yn cynnal delfryd y 19eg ganrif.
Gan Grahame Davies
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|