| |
|
|
|
| |
© 成人快手
|
| | |
Capeli, tai te a gauchos: Y Cymry ym Mhatagonia |
|
Wrth hedfan dros anialwch Patagonia, cannoedd o filltiroedd o dirwedd ddinodwedd a sych, mae’n anodd deall yr hyn ysgogodd pobl i ymfudo i Batagonia yn yr Ariannin, a gadael mynyddoedd a chymoedd gleision Cymru ar eu hôl.
Weithiau gall breuddwydion fod yn drech na realiti. Er
gwaethaf pob disgwyl, llwyddodd y Gwladfawyr i wneud eu
ffordd yn y lle digroeso yma, ac yn fwy na 150 o
flynyddoedd yn ddiweddarach mae eu disgynyddion yno o hyd,
20,000 ohonynt, yn arddel eu tras Gymreig, ac mae cannoedd
– miloedd medd rhai – yn medru’r Gymraeg.
Er mwyn deall pam gallai anialwch yn Ne America ymddangos
yn well ddewis na byw yng Nghymru, mae’n rhaid gwybod beth
yn union ysgogodd yr ymfudwyr cyntaf, a hwyliodd o Lerpwl
yn 1865 ar long y Mimosa. Yn syml iawn, rhyddid oedd eu
delfryd.
Cymraeg eu hiaith ac anghydffurfwyr yn eu crefydd, erbyn
canol y 19eg ganrif, roedd hynny’n eu gwneud yn rhan o’r
mwyafrif yng Nghymru. Ond nid y mwyafrif oedd yn rheoli.
Os oeddech chi eisiau dod ymlaen roedd rhaid siarad y
Saesneg, ac er nad oedd angen bod yn Anglicanaidd, roedd
hynny’n gymorth mawr mewn gwirionedd hefyd.
Gan Grahame Davies More...
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|