| |
|
|
|
| | | |
Capeli, tai te a gauchos: Y Cymry ym Mhatagonia |
|
Dianc i’r anialwch
Yno gwireddodd y gwladfawyr eu breuddwydion, a daeth Dyffryn Chubut, ar ôl llawer o waith llaw i’w ddyfrhau, yn glytwaith o ffermydd, pob un â Chymry arnynt, ac chafodd eu rhifau eu cynyddu wrth i ragor o ymfudwyr gyrraedd.
© 成人快手 | Sefydlon nhw gysylltiadau cyfeillgar â’r Indiaid lleol, heb ladd na chaethiwo’r un ohonynt. Daeth yr unig wrthdaro ym 1883 pan laddwyd tri Chymro ifanc ar daith hela gan Indiaid a gredai mai aelodau Byddin yr Ariannin oeddynt. Ar y pryd roedd y Fyddin yn canlyn ei pholisi difodi “Concwest yr Anialwch” yn erbyn yr Indiaid.
Chymerodd y Cymry ddim rhan yn y fath bolisïau, ac yn aml iawn gweithredon nhw fel eiriolwyr ar ran yr Indiaid yn erbyn y llywodraeth yn Buenos Aires.
Canolbwyntion nhw ar adeiladu eu hiwtopia eu hunain: Cymraeg oedd iaith yr ysgolion, eu capeli niferus a’u llywodraeth leol eu hunain, a dyma’r gymuned gyntaf yn y byd i roi’r un hawliau pleidleisio i ddynion a merched.
© 成人快手 | Wedi tyfu’n rhy fawr i’r tir ar gael yn y dyffryn, roedden nhw wedi sefydlu cangen bellach yn yr Andes.
Ond roedd hi’n rhy dda i bara. Dim ots pa mor ddelfrydyddol oedd breuddwyd y gwladfawyr o ryddid, doedd eu cymuned byth yn mynd i dderbyn ymreolaeth mewn gwirionedd oddi wrth lywodraeth ehangol yr Ariannin, llywodraeth a oedd eisiau atgyfnerthu ei rheolaeth ar yr ardal.
Gan Grahame Davies
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|