成人快手

Atgofion Mici Plwm yn 80: O Plwmsan i garchar Abertawe

  • Cyhoeddwyd

Y DJ Cymraeg cyntaf, trefnydd gigs, cynghorydd, cyfarwyddwr theatr a'r actor tu 么l i un o gymeriadau plant mwyaf poblogaidd Cymru... mae Mici Plwm wedi gwneud ei farc mewn sawl maes.

Ond wrth iddo nodi ei ben-blwydd yn 80 eleni gyda chyfweliad ar raglen Beti a鈥檌 Phobol, dyma bum peth efallai nad oeddech chi鈥檔 gwybod amdano...

Ffynhonnell y llun, Mici Plwm
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mici Plwm, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 80

Cynghorydd ieuengaf Prydain

Mae鈥檔 gynghorydd tref Pwllheli ers 2011 ac fe鈥檌 etholwyd yn Faer y Dref yn 2021... ond tydi bod ar gyngor yn ddim byd newydd iddo:

鈥淧an o鈥檔 i鈥檔 21 ac wythnos oed 鈥 ac roedd yn rhaid bod yn 21 adeg hynny i fod yn aelod o unrhyw gyngor 鈥 mi ro鈥檔 i yn aelod o gyngor plwyf Penrhyndeudraeth ac mi gafodd dipyn o hanes yn y wasg achos mai fi oedd y cynghorydd plwy' neu鈥檙 cynghorydd drwy wledydd Prydain ieuengaf erioed.鈥

Ei daid yn achub trysorau celf Prydain

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd 鈥榥a bryder y byddai trysorau celf Prydain yn Llundain cael eu dinistrio gan fomiau鈥檙 Luftwaffe.

Felly fe gawson nhw eu symud o鈥檙 brifddinas i ogof芒u yn chwareli Blaenau Ffestiniog.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Trysorau o鈥檙 Oriel Genedlaethol yn Llundain yn cael eu harchwilio wrth iddyn nhw gael eu symud i chwarel lechi Manod yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Un o鈥檙 rhai oedd yn rhan o鈥檙 prosiect i warchod y gwaith celf oedd taid Mici Plwm, oedd yn gweithio i鈥檙 Weinyddiaeth Rhyfel.

鈥淩oedden nhw鈥檔 d诺ad fel y Ministry of War ac yn hawlio tai a chartrefi i鈥檞 staff, a鈥檙 dyn oedd yng ngofal hyn oedd Ernest Barnett Harrison," meddai Mici.

"Dyma fo鈥檔 d诺ad a dod 芒鈥檌 wraig a鈥檌 ferch hefo fo... i fod yng ngofal y prosiect yma ar gyrion 鈥楽tiniog...

鈥淲edyn hogan 18 oed oedd ei ferch o, Daphne Eva Harrison, a Dad yn lafnyn yn y pentref a ma鈥 si诺r yn dweud 鈥榩wy di hon dw鈥檆h?鈥

鈥淭a waeth mi ddaru nhw glicio ac wedyn fi ydi鈥檙 ail o bedwar o blant. Fel Taid a Nain Llundain o鈥檔 i鈥檔 cyfeirio atyn nhw - ar 么l y rhyfel wrth gwrs roedden nhw鈥檔 mynd yn 么l wedyn i Lundain.鈥

Hwyliodd ar y m么r am y tro cynta'... o Boston i Ynys M么n mewn storm

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mici Plwm (ar y dde gyda'r ci) gyda chriw yr Urdd

Mae Mici Plwm yn hwyliwr profiadol erbyn hyn, ond doedd ei daith gyntaf ar y m么r ddim yn un hawdd.

Roedd yr Urdd wedi hwylio drosodd i鈥檙 UDA er mwyn cyflwyno plac lechen i鈥檙 Cenhedloedd Unedig er mwyn nodi Neges Ewyllys Da'r mudiad.

Fe ofynnwyd i Mici - sydd efo cysylltiad agos gyda鈥檙 Urdd ers degawdau - a fyddai o鈥檔 fodlon bod yn rhan o鈥檙 t卯m o 10 fyddai鈥檔 hwylio鈥檙 cwch yn 么l. Fe gytunodd, er mai dim ond ar Lyn Tegid roedd o wedi hwylio o鈥檙 blaen.

Meddai: 鈥淢ae o鈥檔 bell iawn... 3,082 o filltiroedd... a rhyw 900 milltir allan o Boston dyma ni鈥檔 dod ar ein pennau mewn i storm graddfa 10.

Gale Force 10 - tonnau deugain troedfedd ac roedd hwnna鈥檔 para ddydd a nos a dwi鈥檔 cofio roedd rhyw dancar mawr ar ei ffordd i Nova Scotia yn galw ni fyny yn y dydd, a鈥檙 radio operator yn gofyn yn ei Saesneg carpiog 鈥榳hat are you doing on the lolly pop stick?鈥

鈥淒yna oedd o鈥檔 cymharu maint yr iot oedden ni arni 'de i gymharu efo fo

鈥淲ir, wir, wir r诺an 'de, yng nghanol y storm yna, a dwi hyd heddiw yn credu, mi roedd 鈥榥a rywun yn edrych ar ein holau ni heb os nac oni bai neu fasa ni ddim wedi dod drwyddi.

"Bobl bach ryw fil o filltiroedd o鈥檙 tir agosa' a dim ond storm, glaw, gwynt, drycin, a 鈥榟ang on for dear life鈥 ond mi ddaethon drwyddi.鈥

Ei hyfforddiant fel trydanwr wnaeth arwain at ei r么l fel Plwmsan

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cymeriadau eiconig rhaglenni Cymraeg i blant - Syr Wymff ap Concord y Bos (Wynford Ellis Owen) a Plwmsan (Mici Plwm) ar raglen Teliffant

Mae cenhedlaeth o blant Cymru yn adnabod Mici Plwm fel y cymeriad Plwmsan 鈥榯wpach na thwp鈥 yn Teliffant a'r gyfres Anturiaethau Syr Wymff a Plwmsan.

Ond ar 么l gadael yr ysgol fe dreuliodd bedair blynedd yn gwneud prentisiaeth fel trydanwr gyda鈥檙 bwrdd trydan Manweb. Fe newidiodd ei fyd ar 么l gweld cyfaill iddo oedd yn gweithio yn y byd drama wnaeth s么n bod Cwmni Theatr Cymru yn chwilio am rywun efo鈥檌 sgiliau o...

Dywedodd: 鈥淎nnwyl Meical Povey (y cyfarwyddwr, actor a鈥檙 awdur). Ei weld o ym Mhorthmadog a fo鈥檔 gofyn 鈥榟ei ti鈥檔 nabod Mr Wilbert Lloyd Roberts?鈥. 鈥楧wi di clywed amdano fo鈥 achos ro鈥檔 i wedi bod yn dechrau potshan efo Wil Sam yn Theatr y Cegin y Criccieth... a meddwl 'waw dwi鈥檔 licio hyn'.

鈥淭a waeth roedd Meical Povey wedi dweud wrtha i 鈥榤ae Mr Roberts yn chwilio am bobl i helpu ar yr ochr dechnegol - ac i actio tameidiau鈥... a dyna chi.鈥

Fe gafodd ei garcharu... a鈥檙 barnwr yn anghofio amdano

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mici Plwm a'i Ddisgo yn yr 1970au

Bu Mici Plwm yn protestio gyda Chymdeithas yr Iaith, gan gynnwys dringo i fyny mast teledu Llanddona fel rhan o鈥檙 ymgyrch dros gael sianel deledu Cymraeg.

Unwaith, ar 么l mynd i gefnogi aelodau eraill o鈥檙 mudiad oedd yn y llys, fe gafodd ddedfryd o garchar am amharu ar yr achos.

鈥淧an o鈥檔 i yn lle mae鈥檙 cyhoedd yn eistedd, a mae rhywun yn gweiddi 鈥榗ourt will rise鈥 - dyma pawb yn codi ond Mici Plwm," meddai. "Wedyn pawb yn eistedd a finna鈥檔 codi ac wedyn dweud mewn llais tra uchel pam do鈥檔 i ddim wedi codi a鈥檙 peth nesa dyma twrw dau set o draed yn d诺ad yn eu lifrau ac yn llusgo fi lawr y grisiau ac i鈥檙 celloedd ac ro鈥檔 i鈥檔 dal i floeddio fy araith fawr.

鈥淭a waeth daeth yr achos i ben a ro鈥檔 i dal yn y carchar yn Abertawe...

鈥淩oedd y barnwr wedi dweud 鈥楳ichael Lloyd Jones you鈥檒l be brought before me after the duration of this trial and brought before me for further sentencing...鈥

鈥淏obl bach. Ond roedd o wedi mynd i Lundain i rwbath 鈥 wedi mynd adra a鈥檔gadael i yno ac roedda nhw鈥檔 gorfod gollwng fi allan o garchar Abertawe trwy drws cefn mewn cywilydd.鈥

Bydd sgwrs Mici Plwm ar Beti a鈥檌 Phobol am 1800 dydd Sul 14 Gorffennaf, am 1800 dydd Iau 18 Gorffennaf ac ar 成人快手 Sounds.

Pynciau cysylltiedig