成人快手

Gwobr arbennig i ferch o d欧 ble bu cam-drin domestig

Lia a Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Gwobrau Dewi Sant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Lia ei gwobrwyo gan Vaughan Gething mewn seremoni nos Iau

  • Cyhoeddwyd

鈥淯nrhyw un sy鈥檔 dioddef trais yn y cartref, dwi鈥檔 gwybod bod o鈥檔 anodd, ond dywedwch wrth rywun. 'Neith o helpu chi a gwneud eich bywyd cymaint yn well.鈥

Dyna neges Lia Thomas, 18 o Bwllheli, sydd wedi ennill Gwobr Dewi Sant fel Person Ifanc 2024.

Pan yn ifanc roedd Lia'n yn byw mewn t欧 ble bu cam-drin domestig.

Yn dilyn digwyddiad o drais yn y cartref cafodd ei thad ei arestio a鈥檌 gael yn euog o reoli drwy orfodaeth.

鈥淩oedd o鈥檔 gyfnod anodd iawn, ac yn drawmatig iawn,鈥 meddai Lia.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pan yn ifanc, roedd Lia Thomas o Bwllheli yn byw mewn t欧 ble bu cam-drin domestig

鈥淢ae gen i frawd sydd ag anghenion ychwanegol ac mae angen cymorth arno fo.

"O鈥檔 i鈥檔 gwarchod o rhan fwya鈥檙 amser yn ystod y cyfnod hwnnw ac felly ddim yn cael amser gyda ffrindiau neu deulu.

"O鈥檔 i hefyd yn gwneud popeth o鈥檔 i鈥檔 gallu i gefnogi mam, ond roedd o鈥檔 anodd.

鈥淵n edrych n么l dwi鈥檔 difaru peidio 芒 dweud rhywbeth yn gynt.

"Falle mae eich rhieni chi鈥檔 dweud wrthych chi i beidio s么n bod yna broblem, ond dwi wedi sylweddoli, os byddwn i wedi rhannu beth oedd yn digwydd yn gynt, byddai bywyd fi wedi bod llawer yn hapusach.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lia a'i theulu

Er gwaethaf ei sefyllfa yn y t欧, llwyddodd Lia i gwblhau ei blwyddyn olaf yn yr ysgol a delio 芒鈥檙 stigma o ganlyniad i鈥檙 hyn ddigwyddodd.

鈥淎r y pryd o鈥檔 i ddim am fynd i鈥檙 ysgol, o鈥檔 i鈥檔 nerfus iawn am y peth," meddai.

"Ond dwi鈥檔 cofio meddwl, mae hi鈥檔 well mynd achos mae鈥檔 saffach na bod yn y t欧.

"Daeth y pennaeth blwyddyn fyny ata i a dweud 'os wyt ti eisiau sgwrs neu rywbeth tyrd yma, dwi yma i ti'.鈥

鈥淎r ddyddiau anodd o鈥檔 i鈥檔 mynd at rywun yn yr ysgol, cael sgwrs gyda nhw a cholli un neu ddau o wersi.

"Ond mwy nag unrhyw beth, nes i jyst parhau gorau o鈥檔 i鈥檔 gallu.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lia (chwith) yn gweithio fel gofalwr mewn cartref gofal

Erbyn hyn mae bywyd Lia a鈥檌 theulu wedi gwella鈥檔 sylweddol ac fe gafodd Lia ei henwebu yn un o gategor茂au Gwobrau Dewi Sant.

Dyma wobrau cenedlaethol i Gymru sy鈥檔 dathlu rhai o bobl fwyaf dewr a disglair y wlad.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Gwobrau Dewi Sant

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Gwobrau Dewi Sant

Eleni fe gafodd 500 o bobl eu henwebu gan y cyhoedd mewn 10 o gategor茂au.

Daeth Lia i'r brig yn y categori person ifanc wedi i鈥檞 mam Swsan Williams ei henwebu fel ffordd o ddiolch iddi am ei chymorth yn ystod yr adegau anodd i鈥檙 teulu.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Swsan Williams ei bod hi'n "ofnadwy o falch" o'i merch

鈥淒wi鈥檔 ofnadwy o falch o Lia,鈥 dywedodd Swsan.

鈥淢ae hi鈥檔 hogan fach gwrtais a hapus. Cefnogodd hi fi a鈥檌 brawd yn gyson yn ystod y cyfnod anodd iawn yna.

"Dwi am iddi wybod pa mor hynod o ddiolchgar dwi a鈥檌 brawd ohoni."

Prif Weinidog Cymru fuodd yn cyhoeddi enillydd pob categori mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd nos Iau.

Dywedodd Lia bod ennill y wobr "yn syrpreis llwyr... pan nath enw fi ddod i fyny nes i jyst dechra' crio".

Ychwanegodd: "Dwi 'di bod trwy llawer a '诺an ma' petha' da yn dod i ni gyd fel teulu... eto heno 'ma wedi llwyddo efo rwbath arall."

Pynciau cysylltiedig