成人快手

Cyfraith bosib i atal Aelodau o'r Senedd am ddweud celwydd

Senedd Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe allai gwaharddiad ar wleidyddion yn dweud celwydd yn fwriadol ddod yn gyfraith, yn rhannol diolch i鈥檙 cyn-weinidog Llafur Lee Waters.

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn credu y dylai unrhyw un sy'n cael eu canfod o fod wedi dweud celwydd gael eu gwahardd rhag bod yn Aelod o鈥檙 Senedd.

Fe gafodd y drosedd ei hychwanegu at fil i ddiwygio etholiadau, gyda chefnogaeth y Ceidwadwyr, ac ar 么l i Mr Waters ymatal ar y gwelliant.

Roedd yn groes i ddymuniadau Llywodraeth Cymru, sydd wedi rhybuddio fod yn bosib na fydd gan y Senedd y grym i basio鈥檙 ddeddfwriaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod angen "dadansoddiad manwl o'r goblygiadau polisi a chyfreithiol".

Beth yw'r mesur?

Mae gan y mesur - sy'n cynnwys cynllun peilot ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig - gamau pellach i'w pasio drwy'r Senedd, ble y gall gweinidogion geisio dileu gwelliant Mr Price.

Dywedodd y cyn-weinidog trafnidiaeth Mr Waters wrth 成人快手 Cymru bod y ffaith ei fod wedi ymatal, yn hytrach na gwrthryfel, yn arwydd o Senedd oedd yn aeddfedu.

O dan y gyfraith, byddai鈥檔 drosedd i aelod o鈥檙 Senedd, neu ymgeisydd ar gyfer etholiad i鈥檙 Senedd, gamarwain yn fwriadol neu gyda鈥檙 bwriad o wneud datganiad eu bod yn gwybod ei fod yn ffug neu鈥檔 dwyllodrus.

Byddai鈥檔 amddiffyniad pe bai鈥檔 鈥済asgliad rhesymol鈥 ei fod yn ddatganiad barn, neu pe bai鈥檔 cael ei dynnu鈥檔 么l gydag ymddiheuriad yn cael ei roi o fewn 14 diwrnod.

Byddai'n rhaid dwyn achos o fewn chwe mis i'r dyddiad y gwnaed y datganiad.

Petai rywun yn cael eu herlyn dan gyfraith o鈥檙 fath, mi fydden nhw'n cael eu gwahardd rhag bod yn aelod o鈥檙 Senedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyn arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wnaeth gyflwyno'r gwelliant iddi fod yn drosedd i wleidyddion gamarwain yn fwriadol

Mae Adam Price wedi ymgyrchu ers peth amser iddi fod yn drosedd i wleidyddion gamarwain yn fwriadol.

Roedd wedi ceisio a methu 芒 chael y drosedd wedi鈥檌 hychwanegu at y ddeddfwriaeth i ehangu maint y Senedd.

Yr wythnos diwethaf fe gyflwynodd welliant i鈥檙 Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig yn y pwyllgor llywodraeth leol a thai.

Fe bleidleisiodd Mr Price a dau aelod Ceidwadol o blaid y gwelliant, tra bod dau aelod Llafur o'r pwyllgor wedi pleidleisio yn erbyn. Fe wnaeth Mr Waters ymatal.

Nid yw鈥檙 bil wedi cael ei basio gan y Senedd eto ac mae yna ddau gam arall o ddadleuon eto i ddod.

Os yw'r llywodraeth yn parhau i wrthwynebu'r gwaharddiad, mae'n bosib y bydden nhw'n ceisio diwygio'r mesur i ddileu'r drosedd.

Fe allai hynny fod yn anodd os na all y llywodraeth sicrhau cefnogaeth gan aelodau o'r gwrthbleidiau i gael gwared ar y drosedd.

Er bod y Ceidwadwyr wedi cefnogi'r drosedd o dwyll yn y pwyllgor, dyw hi ddim yn glir a fydden nhw'n gwneud hynny yn y dyfodol.

Llywodraeth yn cefnogi'r syniad

Er gwaethaf y pryderon am gynllun Mr Price, mae gweinidogion y llywodraeth wedi rhoi rhywfaint o gefnogaeth i'r syniad.

Mae prif gynghorydd cyfreithiol llywodraeth Cymru, y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw, wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn cefnogi'r "egwyddor gyffredinol", ac wedi cyfeirio'r mater at bwyllgor safonau'r Senedd.

Yn ddiweddar, dywedodd y Prif Weinidog Vaughan Gething ei fod am "weithio'n adeiladol gyda phob plaid i geisio datrys y mater hwn cyn etholiad nesaf y Senedd".

Fodd bynnag, yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Antoniw ei fod yn pryderu bod y gwelliant yn honni ei fod yn datrys problem ond mewn gwirionedd, "yn ddim mwy na chyfraith ddrwg ac aneffeithiol".

Dywedodd fod ganddo "amheuaeth sylweddol" y byddai'r gwelliant "yn gweithio mewn gwirionedd" ac y byddai'n effeithiol. Dywedodd nad oedd wedi bod yn destun craffu "cyffredin".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mr Waters wrth 成人快手 Cymru fod democratiaeth 鈥渄an her aruthrol鈥

Yn y pwyllgor fe rybuddiodd Mr Antoniw hefyd na all y Senedd ddeddfu i 鈥済reu troseddau o鈥檙 math sy鈥檔 cael eu trin gan Ddeddf Anudon 1911鈥.

Wrth siarad 芒 成人快手 Cymru, fe wnaeth Mr Waters ddadlau fod y mesur etholiadau yn ffordd fwy diogel o sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys cyn yr etholiad nesaf yn 2026, na thrwy fesur pwyllgor.

鈥淒wi鈥檔 meddwl bod y math yma o beth yn rhan bwysig o鈥檙 Senedd yn aeddfedu fel sefydliad,鈥 meddai.

鈥淩ydyn ni鈥檔 symud o ddisgyblaeth fel cyngor sir... i un mwy aeddfed lle mae meinciau cefn y llywodraeth yn cyflwyno gwelliannau (a oedd yn arfer cael eu gwahardd), a hefyd yn herio'r llywodraeth ar bwyllgorau trwy graffu.鈥

Dywedodd Mr Waters wrth 成人快手 Cymru fod democratiaeth 鈥渄an her aruthrol鈥.

鈥淩wy鈥檔 meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod difrifoldeb hynny ac yn cymryd camau i鈥檞 wrthsefyll.

鈥淒ydyn ni ddim yn ei dderbyn gan feddygon. Nid ydym yn ei dderbyn gan gyfreithwyr. Pam ydyn ni鈥檔 ei dderbyn gan wleidyddion?鈥

'Cam hanesyddol'

Dywedodd Adam Price: 鈥淢ae hwn yn gam hanesyddol ymlaen gan fod un o bwyllgorau trawsbleidiol y Senedd wedi pleidleisio o blaid fy ngwelliant i wneud celwydd gan wleidyddion yn drosedd.

鈥淕ydag ymddiriedaeth yn ein sefydliadau gwleidyddol ar ei hisaf erioed, mae angen i ni fod yn rhagweithiol wrth ailadeiladu鈥檙 ymddiriedaeth a鈥檙 hyder hwnnw".

Dywedodd yr aelod Ceidwadol o鈥檙 pwyllgor James Evans: 鈥淩wy鈥檔 meddwl y byddai鈥檙 cyhoedd yn gyffredinol yn parchu gwleidyddion yn llawer mwy, pe na bai anwireddau鈥檔 cael eu dweud.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淢ae鈥檙 egwyddor gyffredinol sy鈥檔 sail i鈥檙 gwelliant hwn, fel y鈥檌 nodwyd yn ystod y craffu, yn un bwysig.

"Fodd bynnag, fe fydd yn bwysig i'r Senedd a Llywodraeth Cymru gynnal dadansoddiad manwl o oblygiadau polisi a chyfreithiol y cynigion.

Byddwn nawr yn ystyried canlyniad y ddadl wrth i ni symud ymlaen gyda'r bil hwn."