成人快手

Gohirio streiciau corws WNO wedi trafodaethau

Llun o Gorws Opera Cenedlaethol Cymru yn dal arwyddion protestFfynhonnell y llun, Equity
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar hyn o bryd, bydd streic y corws ar 11 Hydref yn mynd yn ei blaen

  • Cyhoeddwyd

Bydd "oedi" i streiciau gan aelodau o gorws Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn dilyn trafodaethau mewn anghydfod am doriadau.

Dywedodd undeb Equity na fydd y streiciau oedd wedi'u trefnu ar gyfer 21 a 29 Medi yn mynd yn eu blaen yn dilyn "trafodaethau cynhyrchiol" gyda rheolwyr WNO dros yr wythnos ddiwethaf.

Bydd aelodau'r corws yn dal i gymryd "camau yn fyr o streic" trwy gydol y tymor, ac ar hyn o bryd, mae streic ar 11 Hydref yn mynd yn ei blaen.

Dywedodd Equity: 鈥淣id oes bargen wedi鈥檌 chyrraedd eto, ac er gwaethaf gohirio鈥檙 streic ar hyn o bryd, mae鈥檙 corws yn parhau i bryderu am oblygiadau cynigion presennol y rheolwyr.

"Bydd y saib yn caniat谩u amser ar gyfer trafodaethau pellach, gyda'r gobaith o ddod i gytundeb gyda rheolwyr WNO sy'n mynd i'r afael 芒鈥檙 prif bryderon ynghylch colli swyddi, toriadau cyflog a diswyddiadau gorfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran WNO eu bod yn falch am y penderfyniad, "sy鈥檔 golygu y bydd perfformiadau ein noson agoriadol yng Nghaerdydd yn mynd yn eu blaenau fel y cynlluniwyd".

"Byddwn yn parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gyda鈥檙 undebau ac rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy鈥檔 gweithio i aelodau Corws a Cherddorfa WNO tra hefyd yn cydnabod realiti sefyllfa ariannol WNO yn dilyn toriadau sylweddol i鈥檞 gyllid cyhoeddus.鈥

Pynciau cysylltiedig