成人快手

Llai yn ceisio am le prifysgol - ond pam?

Brooke
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Brooke, 17, yn bwriadu mynd i'r brifysgol ond mae data yn dangos gostyngiad yn y ceisiadau gan bobl ifanc o Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae penaethiaid prifysgolion yn dweud y dylai pobl Cymru "boeni" am ostyngiad yn nifer y bobl ifanc 18 oed sydd yn ceisio am le yn y brifysgol.

Mae'r data, gan y gwasanaeth mynediad i brifysgol UCAS, yn dangos hefyd gwymp yn nifer y ceisiadau gan ddisgyblion o gefndiroedd mwy difreintiedig.

Dros yr haf, mae Prifysgol Abertawe yn cynnal cyrsiau i annog pobl ifanc i wneud cais am le.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhaglen Camu Ymlaen, Prifysgol Abertawe, yn cynnig gwahanol weithgareddau i ddarpar myfyrwyr

Ymhlith y disgyblion fuodd yn rhan o'r cynllun eleni roedd Brooke o Sgiwen ger Castell-nedd - un o'r rhai cyntaf o'i theulu i ddewis addysg uwch.

Tra'n astudio ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch yng Ngholeg Castell-nedd, penderfynodd Brooke ei bod am ddilyn cwrs prifysgol ar seicoleg fforensig ar 么l gwylio fideo am y pwnc ar YouTube.

"Doedd Mam a Dad byth wedi mynd i brifysgol a does neb yn y teulu wedi rili mynd oni bai am chwaer mam 鈥 oedd hi wedi mynd blwyddyn diwethaf.

"So hi yw'r unig role model."

Mae ei theulu'n falch iawn ohoni.

"Maen nhw ffili credu fe... a mae nhw jyst m么r prowd," meddai.

Yn 么l ffigyrau diweddaraf UCAS roedd 33.8% o bobl ifanc 18 oed Cymru wedi gwneud cais am brifysgol - o'i gymharu gyda 41.9% ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae'r bwlch yma yn destun gofid meddai Gwen Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Prifysgolion Cymru "o safbwynt goblygiadau hirdymor ar y gweithlu yma yng Nghymru, ar ein heconomi ni ac ar ein cymdeithas ni".

Ond mae'r rhesymau tu 么l i'r ffigyrau'n debygol o fod yn gymhleth, meddai.

Mae yna bryder cynyddol wedi bod am ddyledion graddedigion - y ddyled ar gyfartaledd i fyfyrwyr Cymru erbyn hyn yw 拢37,360.

Dywedodd y gallai鈥檙 cynnydd mewn costau byw fod yn 鈥渇factor鈥 ond mae angen deall 鈥減am mae鈥檙 ffigyrau yma鈥檔 edrych mor ofidus i ni yng Nghymru pan mae鈥檙 ffactorau yn reit debyg ar draws Prydain".

'Tuedd bryderus'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ceisio deall y sefyllfa gyda chymorth arbenigwyr a thystiolaeth.

Mae'r broblem yn "ehangach nag addysg uwch" meddai llefarydd, gan addo diweddariad ar ymateb polisi'r llywodraeth yn yr hydref.

Ond yn 么l y Ceidwadwyr Cymreig mae hwn yn "duedd bryderus sy'n gofyn am ymchwiliad".

Pe na bai hynny'n digwydd, meddai llefarydd addysg y blaid yn y Senedd, Tom Giffard, "mae peryg o lesteirio gweithlu Cymru yn y dyfodol o bobl broffesiynol medrus a phrofiadol a chyfyngu'n ddifrifol ar gyfleoedd i bobl ifanc a chenedlaethau'r dyfodol".

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Cefin Campbell: "Mae angen gweithredu ar frys gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael 芒'r dirywiad mewn safonau a dyheadau drwy ein system addysg yng Nghymru."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar 么l siarad gyda'u rhieni a defnyddio gwefan Cymru'n Gweithio penderfynodd Arwen ddilyn prentisiaeth

Ychwanegodd Gwen Williams bod yna ostyngiad "yng nghyfranogiad holl bobl ifanc addysg 么l-16 ac felly dydy o ddim bo nhw鈥檔 dewis un opsiwn dros y llall mewn ffordd" a dywedodd bod hynny'n "frawychus".

Un sydd wedi dilyn llwybr gwahanol yw Arwen Jones o Faesteg, wnaeth brentisiaeth marchnata a chyfathrebu ar 么l gadael yr ysgol.

Cael profiad ymarferol oedd yn apelio ati ac ar 么l cwblhau'r brentisiaeth fe fuodd hi'n gweithio i Aelod Seneddol.

"Mae鈥檙 profiad fi 'di cael o鈥檙 brentisiaeth ac ar 么l y brentisiaeth 鈥 mae'n rhywbeth fi鈥檔 gwybod bydde fi ddim yn cael os es i i'r brifysgol," meddai.

Roedd yna ddisgwyliad yn yr ysgol y byddai'n gwneud gradd.

"O'dd yr ysgol i ddechre bach fel 鈥榦 falle dylsech chi dal fynd i'r brifysgol鈥 ond nawr fi dal yn siarad 'da athrawon fi ac maen nhw鈥檔 cytuno bod y prentisiaeth y peth gorau fi di 'neud," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fuodd Francesca Thomas ar y cwrs Camu Ymlaen fel disgybl - nawr mae hi'n cyfrannu fel myfyriwr

Ond mae Francesca Thomas o Gwm Gwendraeth yn falch iddi ddewis mynd i brifysgol, er doedd hi ddim yn sicr ar un adeg ai dyna'r dewis gorau.

Buodd hi ar gwrs Camu Ymlaen Prifysgol Abertawe ddwy flynedd yn 么l.

Roedd rhywun agos ati wedi cael profiad anodd fel myfyriwr ac roedd hynny wedi cael effaith ar Fran.

"O鈥檔 i wastad isie dod 鈥 oedd e jyst cael yr hyder i ddod yma," meddai.

"Collais i lot o hyder fi a wedyn ar 么l Camu Ymlaen o fi jyst wedi mynd gartre a dwedes i wrth mam 鈥榠e, fi鈥檔 mynd!鈥."

Nawr mae hi'n siarad gyda disgyblion gyda heriau tebyg.

"Mae鈥檔 neis gweld pobol yn newid trwy鈥檙 wythnos a ddim cael outlook negyddol am brifysgol 鈥 mae hynny鈥檔 rili neis i weld," meddai.