成人快手

Dydd Dylan: 5 peth diddorol am Dylan Thomas

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Mae'n Ddydd Dylan ar 14 Mai. Mae'n gyfle i ddathlu bywyd a gwaith y bardd enwog Dylan Thomas.

Ar 14 Mai 1953, cafodd ei ddrama Under Milk Wood ei pherfformio am y tro cyntaf yn Efrog Newydd.

Dyma bum peth difyr am Dylan Thomas.

Cafodd ei fagu yn Abertawe

Ffynhonnell y llun, Swansea Little Theatre
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dylan yn ymarfer yn y Swansea Little Theatre

Cafodd Dylan Thomas ei eni yn Abertawe ar 27 Hydref 1914.

Roedd ei dad, David John Thomas yn athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abertawe a'i fam, Florence Hannah Williams yn 驳飞苍茂辞 dillad cyn iddi briodi.

Pan oedd yn blentyn roedd Dylan yn treulio鈥檙 haf ar fferm ei fodryb yn Sir Gaerfyrddin. Dyma wnaeth ei ysbrydoli i ysgrifennu ei gerdd Fern Hill.

Dechreuodd Dylan farddoni yn ei lyfr nodiadau pan oedd yn yr ysgol. Ysgrifennodd y rhan fwyaf o鈥檌 farddoniaeth pan oedd yn ei arddegau.

Ar 么l gadael yr ysgol aeth i weithio fel newyddiadurwr i鈥檙 South Wales Evening Post. Symudodd Dylan Thomas i Lundain ym 1934 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, sef Eighteen Poems.

Mae dylanwad y Gymraeg ar ei waith

Ffynhonnell y llun, David Highams Associates
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyfr nodiadau Dylan Thomas

Doedd Dylan ddim yn siarad Cymraeg gartref. Roedd ei rieni yn siarad Saesneg pan oedd yn tyfu i fyny.

Ond roedd yn deall Cymraeg ac mae rhai鈥檔 meddwl bod yr iaith Gymraeg yn ddylanwad mawr ar ei farddoniaeth.

Meddyliwch am y llinell yma o鈥檌 gerdd Vision and Prayer:

To the burn and turn of time

Mae鈥檙 llinell yn cynnwys odl fewnol a chyflythrennu. Yn 么l rhai, dyma ddylanwad y gynghanedd ar ei waith.

Bob blwyddyn bydd bardd yn ennill cadair am ysgrifennu cerdd mewn cynghanedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd yn barddoni yn ei sied

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tu mewn i sied Dylan Thomas yn Nhalacharn

Roedd Dylan yn byw yn y Boathouse yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin o 1949-1953.

Roedd Dylan a鈥檌 wraig Caitlin wrth eu bodd gyda鈥檙 lle.

Fe wnaeth droi鈥檙 sied wrth ymyl y t欧 yn stiwdio iddo ysgrifennu.

Roedd yn yfed yn nhafarn y pentref sef y Brown鈥檚 Hotel.

Gorffennodd ysgrifennu ei ddrama 'Under Milk Wood' yn 1953, yn fuan cyn iddo farw.

Mae鈥檔 bosib ei fod wedi ysgrifennu llawer o鈥檙 ddrama yn ei sied yn Nhalacharn.

Heddiw, mae鈥檙 Boat House yn amgueddfa am hanes Dylan Thomas.

Fe yfodd 18 wisgi cyn marw

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tafarn The White Horse yn 1961

Roedd Dylan yn mynd ar deithiau i America i ddarllen ei farddoniaeth.

Roedd yn mynd i Efrog Newydd yn aml. Yno byddai鈥檔 yfed yn nhafarn The White Horse Tavern. Dyma un o dafarnau hynaf Efrog Newydd.

Yn ystod ei ddyddiau olaf, aeth Dylan i The White Horse Tavern lle dywedodd ei fod wedi torri record ar 么l yfed 18 wisgi.

Aeth yn 么l i鈥檞 ystafell yn The Chelsea Hotel. Rai dyddiau wedyn, roedd o yn yr ysbyty lle buodd o farw ar 9 Tachwedd 1953. Roedd o鈥檔 39 mlwydd oed.

Rhai o'i ffans yw Taylor Swift a Band Pres Llareggub

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Taylor Swift yn enwi Dylan yn un o'i chaneuon

Mae Dylan yn dal i ysbrydoli beirdd, cantorion ac artistiaid.

Mae Taylor Swift yn ei enwi yn ei ch芒n newydd The Tortured Poets Department:

'You're not Dylan Thomas. I'm not Patti Smith. This ain't the Chelsea Hotel. We're modern idiots.'

Flynyddoedd yn 么l, newidiodd y canwr Bob Dylan ei gyfenw ar 么l darllen cerddi Dylan Thomas.

Roedd llun o Dylan ar lun albwm The Beatles o 1967, Sgt Pepper鈥檚 Lonely Hearts Club Band.

Dych chi鈥檔 licio Band Pres Llareggub? Wel, y pentref dychmygol yn Under Milk Wood yw Llareggub.

Dydd Dylan hapus i chi.

Geirfa

dathlu/celebrate

Efrog Newydd/New York

difyr/interesting

驳飞苍茂辞/to sew

priodi/marry

treulio/to spend (time)

modryb/aunt

ysbrydoli/inspire

llyfr nodiadau/note book

barddoni/to write poetry

arddegau/teenage years

cerdd/poem

barddoniaeth/poetry

newyddiadurwr/journalist

cyhoeddodd/published

dylanwad/influence

odl fewnol/internal rhyme

cyflythrennu/alliteration

cynghanedd/a strict Welsh metre used to write poetry

amgueddfa/museum

hynaf/oldest

wisgi/whiskey

beirdd/poets

cantorion/singers

cyfenw/surname

dychmygol/imaginary

Pynciau cysylltiedig