成人快手

Cael stondin yn Eisteddfod yr Urdd 'wedi talu ffordd'

Stondin Si-lwli ar faes Eisteddfod yr Urdd 2024
  • Cyhoeddwyd

Mae dod 芒 stondin i faes Eisteddfod yr Urdd 2024 wedi talu ffordd, yn 么l nifer o stondinwyr, er bod yr argyfwng costau byw yn parhau i gael dylanwad.

Wrth ddisgrifio鈥檙 wythnos hyd yma, dywedodd un stondinwr bod pryniannau "tipyn yn fwy" na鈥檙 arfer ar y maes ym Meifod.

Mae eraill, serch hynny, yn cydnabod eu bod wedi cadw eu prisiau鈥檔 bwrpasol sefydlog, er mwyn bod yn fforddiadwy i bawb eleni.

Dywed trefnwyr yr Eisteddfod eu bod yn "cadw ein prisiau i unedwyr mor isel 芒 phosib".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae hi wedi bod yn wythnos dda hyd yn hyn ar stondin Oriel Pwlldefaid, medd Bethan Roberts

Er gwaetha鈥檙 tywydd gwlyb ddechrau鈥檙 wythnos, mae Bethan Roberts o Oriel Pwlldefaid wedi disgrifio鈥檙 wythnos fel un "arbennig o dda" o ran gwerthiant.

"Roedd dydd Llun yn wych, anhygoel," meddai.

"Dwy flynedd yn 么l mi gethon ni Eisteddfod arbennig, arbennig o dda achos roedd pobl yn cael dod i fewn am ddim y flwyddyn honno - roedd honno鈥檔 wych.

"Roedd llynedd yn dda iawn ac mae hi wedi dechrau yn dda iawn eto eleni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cyfleuster gallu talu 芒 cherdyn yn hwb i werthiant, medd Sioned Elin o gwmni Cadwyn

Yr un oedd ymateb Sioned Elin o gwmni Cadwyn, sy鈥檔 dathlu 50 mlynedd o fusnes.

"Fi鈥檔 credu bod pryniannau pobl yn fwy,鈥 meddai, wrth ddisgrifio gwariant ar faes Meifod.

鈥淢ae pobl yn defnyddio cardiau erbyn hyn - mae hynny mor gyfleus - ac wrth lwc, mae鈥檙 peiriannau cardiau wedi bod yn gweithio鈥檔 ddi-broblem, yn ddi-ffwdan 鈥榤a.

"Dyna鈥檙 newid mwya鈥 ni 'di gweld dros y blynyddoedd. Roedd dydd Llun a dydd Mawrth wastad yn draddodiadol 芒 phlant bach oedd 芒 拢2 i wario neu 拢5 i wario, ond erbyn hyn, mae鈥檙 pryniannau tipyn yn fwy."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ambell gwmni'n teimlo bod gormod o ffactorau risg i gyfiawnhau cael stondin pan fo'r sefyllfa ariannol yn heriol, medd Sam Chucas

I gwmni CrysauTi.Cymru, "eithaf tebyg" i鈥檙 arfer yw鈥檙 gwerthiant, gyda Sam Chucas o鈥檙 cwmni鈥檔 dweud iddo benderfynu peidio 芒 phasio costau cynyddol ymlaen at y cwsmer yn fwriadol.

"'Dwi 'di sicrhau bod price-freeze ar ddillad plant fel bod teuluoedd ifanc dal yn gallu fforddio pethau yn ein stondin ni," meddai.

"Rwy鈥檔 lwcus, achos 鈥榙yn ni wastad yn gwneud yn eitha' da o ran faint 'dyn ni鈥檔 gwerthu ond rwy'n ymwybodol o bobl sydd wedi dweud 'na' eleni oherwydd bod y costau yn gallu bod yn really, really uchel.

"Mae'n risg wedyn i'r stondinau - maen nhw'n dweud 'na', just rhag ofn... er enghraifft, y tywydd. Os yw'r tywydd yn wael, 'dyn nhw ddim yn mynd i wneud digon o arian i dalu am bopeth."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Awena Walkden gyda'i merch ar stondin Si-lwli

Un sy'n dweud bod pasio costau cynyddol ymlaen yn anochel yw Awena Walkden, o gwmni Si-lwli Cymru.

Gyda'u teganau newydd Deian a Loli yn 拢30, mae'n dweud nad yw pobl yn deall y gost sydd ynghlwm 芒'u cynhyrchu.

"Ma' pobl yn dod i fewn a maen nhw'n lico'r Deian a Loli newydd a phethau," meddai.

"Maen nhw'n dweud pethau fel 'swn i鈥檔 meddwl byswn i'n medru cael un am 拢10' ond mae'n costio ni mwy na hynna i wneud un.

"Oherwydd costau byw, mae 'na lai yn y boced, ond dwi'n meddwl hefyd dydy pobl ddim bob tro yn dallt y costau sy'n mynd mewn i redeg busnes - a hefyd i gael stondin, mae'n ddrud.

"Dyna pam ry'n ni'n gorfod codi bach fwy am ein nwyddau ni i gael bod yma, i gael bod yn rhan o鈥檙 profiad."

'Prisiau mor isel 芒 phosib'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd: 鈥淢ae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd yn ddiolchgar i鈥檔 unedwyr am ein cefnogi unwaith eto eleni ac rydym yn falch o glywed fod busnesau wedi cael cychwyn llwyddiannus i鈥檞 hwythnos o werthu.

"Mae costau i鈥檙 Urdd logi strwythurau wedi cynyddu, felly yn anorfod rydym wedi cynyddu costau i unedwyr o 2.5% o gymharu 芒 phrisiau 2023.

"Ar bob achlysur rydym yn cadw ein prisiau i unedwyr mor isel 芒 phosib.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd rhai wedi cwyno am fwd yn y pentre bwyd ddydd Mercher, cyn iddi sychu ddydd Iau

Ond mae rhai busnesau bwyd ar y maes yn dweud bod cwsmeriaid wedi cadw draw ddydd Mercher oherwydd cyflwr y maes o amgylch eu stondinau.

Ar 么l diwrnod o law ddydd Mawrth, mae rhannau o鈥檙 maes wedi bod yn fwdlyd iawn, yn enwedig yr ardal ger y stondinau bwyd.

Er bod trefnwyr yr Eisteddfod yn dweud bod mwy o dracfyrddau wedi cael eu defnyddio yn yr 诺yl eleni mae rhai pobl yn dweud eu bod wedi cael trafferth cerdded mewn rhai ardaloedd.

Erbyn dydd Iau mae'r amodau wedi gwella yn dilyn cyfnod o dywydd sych ac mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi rhoi mwy o naddion pren ar y llawr er mwyn creu llwybrau newydd yn yr ardal fwyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Nerys Astley fod pobl wedi "cael trafferth aros ar eu traed" ddydd Mercher

Dywedodd Nerys Astley, perchennog Four Seasons Mobile Catering: "Diwedd dydd dydd Mercher doedd hi ddim yn neis iawn!

"Oedd hi'n sticky, pobl yn cwympo ac yn cael trafferth aros ar eu traed.

"Dylsen nhw wedi rhoi mwy o sdwff i lawr i helpu pobl i ddim cwympo."

Ond dywedodd Iwan Davies, sydd hefyd yn rhedeg stondin bwyd ar y maes, ei fod yn teimlo fod trefnwyr wedi gwneud gwaith teg mewn amgylchiadau anodd.

"Oedd hi'n andros o job i'r trefnwyr wybod beth i'w wneud, oedd hi mor fwdlyd fysa unrhyw chip coed wedi ei dagu gyda mwd ar y pryd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Iwan Davies yn credu fod y trefnwyr wedi gwneud gwaith teg mewn amgylchiadau anodd

Dywedodd cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Llio Maddocks, nad oedd tracfyrddau ger y stondinau bwyd ddechrau'r wythnos, ond bod mwy o adnoddau wedi eu darparu yn dilyn y tywydd gwlyb.

Ychwanegodd bod swyddogion iechyd a diogelwch "yn monitro鈥檙 sefyllfa bob hanner awr".

"'Da ni'n gofyn i bawb baratoi ar gyfer tir sydd 'chydig bach yn wlyb dan droed ond mae'r awel wedi pigo fyny heddiw ac mae'r tir yn sychu'n rhyfeddol o dda," meddai.