成人快手

Ystyried uchafswm rhoddion ymgyrch wedi ffrae Gething

Vaughan Gething
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe dderbyniodd Vaughan Gething 拢200,000 i'w ymgyrch i ddod yn arweinydd Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd uchafswm rhoddion i ymgeiswyr i arwain Llafur Cymru yn cael ei ystyried gan adolygiad, yn 么l y cyn-brif weinidog Carwyn Jones.

Daw yn dilyn y ffrae ynghylch y rhoddion dadleuol i ymgyrch Vaughan Gething.

Cadarnhaodd Mr Jones, arweinydd yr adolygiad, y byddai鈥檔 edrych ar faint rhoddion i gystadlaethau'r dyfodol, ac o ble maen nhw'n dod.

Fe wnaeth Mr Gething dderbyn 拢200,000 gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae Mr Gething wedi amddiffyn ei onestrwydd gan wrthod galwadau gan wrthwynebwyr am ymchwiliad dan reolau鈥檙 llywodraeth.

Mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi gosod dadleuon yn y Senedd yn beirniadu'r prif weinidog.

Mae cynnig Plaid Cymru, i'w drafod ddydd Mercher, yn galw'n benodol am gael uchafswm ar roddion gwleidyddol i aelodau Senedd Cymru.

Maint rhoddion yn 'amlwg yn bwnc'

Fe wnaeth y gr诺p Dauson Environmental o Gaerdydd rhoi dau gyfraniad o 拢100,000 yr un i ymgyrch Mr Gething.

Mae'r busnes yn cael ei redeg gan David Neal a gafodd ddedfryd o garchar wedi'i gohirio yn 2013 am dipio gwastraff yn anghyfreithlon.

Bedair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei erlyn eto am beidio 芒 chael gwared arno.

Mae鈥檙 ymgeisydd a gollodd i Mr Gething, Jeremy Miles 鈥 sydd bellach yn ysgrifennydd yr economi yn llywodraeth Mr Gething 鈥 wedi dweud na fyddai wedi derbyn yr arian.

Yn fuan ar 么l ennill yr arweinyddiaeth, cyhoeddodd Mr Gething y byddai Llafur Cymru yn adolygu eu rheolau.

Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan Carwyn Jones, a ddywedodd wrth 成人快手 Cymru bod maint rhoddion 鈥測n amlwg yn bwnc鈥 i鈥檞 ystyried.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cyn-brif weinidog Carwyn Jones fydd yn arwain yr adolygiad

Bydd Mr Jones yn ystyried y rheolau ar gyfer y gystadleuaeth yn y dyfodol, nid rheolau鈥檙 etholiad sydd newydd orffen.

Dywedodd fod y pleidiau eraill 鈥 sydd wedi cyhuddo Llafur o beidio 芒 gadael i rywun allanol gynnal ymchwiliad 鈥 wedi camddeall y broses.

Adolygiad 鈥渆r mwyn sicrhau bod y system gallu gweithio鈥檔 well yn y pen draw鈥 oedd hwn, meddai.

鈥淓r enghraifft, dylai鈥檙 gystadleuaeth fod mor hir ag y mae e? Yn fy marn i mae鈥檔 hir iawn. Dwi 鈥榙i bod trwyddo fe."

Aeth ymlaen i holi: 鈥淧a fath o system dyle fod mewn lle er mwyn delio gyda rhoddion? Dyle fod 鈥榥a derfyn ar faint mae pobl yn gallu rhoi?

鈥淢ae鈥檔 rhywbeth hollol iach i unrhyw blaid wleidyddol 'neud.鈥

Eisiau 'sicrhau fod pethau'n gwella'

Byddai gosod uchafswm ar roddion yn anodd ac fe fyddai鈥檔 rhaid ei ystyried yn 鈥渇anwl iawn鈥, meddai.

鈥淢ae 鈥榥a feddwl agored 'da fi a 'wi moyn sicrhau bod pethau鈥檔 gwella unwaith eto.

鈥淒wi鈥檔 credu bod y system yn hollol agored fel mae e, ond dyw hynna ddim yn meddwl, yn yr hen ddywediad, 鈥榙a ond nid da lle gellir gwell鈥.鈥

Ychwanegodd: 鈥淒wi鈥檔 credu byddai Vaughan ddim wedi eisiau gweld y stori hon yn rhedeg ac fe fyddai wedi moyn dechrau ei yrfa fel prif weinidog mewn ffordd hollol wahanol.

鈥淥nd 鈥榥a fe 鈥 ma' hwnna鈥檔 rhywbeth sydd wedi cael ei ddelio gyda yn y Senedd. Mae e wedi rhoi ei esboniad am hwnna.

鈥淥nd bydd hwn ddim yn rhywbeth bydd yr adolygiad hwn yn edrych arno. Ni moyn gweld beth fydd yn digwydd nawr yn y blynyddoedd i ddod.鈥