成人快手

Myfyriwr yn colli 拢250 trwy dwyll tocynnau cyngerdd

Niamh ThomasFfynhonnell y llun, Niamh Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gollodd Niamh Thomas 拢250 wrth geisio prynu tocynnau i weld band Coldplay

  • Cyhoeddwyd

Mae myfyriwr yn dweud ei bod "wedi dychryn" ar 么l colli 拢250 wrth geisio prynu tocynnau ail law i weld cyngerdd Coldplay.

Fe geisiodd Niamh Thomas, 19 o Abertawe, brynu dau docyn iddi hi a'i chwaer ar Facebook i weld y band yng Nghaerdydd fis diwethaf.

Doedd dim modd iddi gael yr arian yn 么l.

Mae Niamh eisiau rhybuddio pobl fydd yn chwilio am docynnau i weld Taylor Swift a Foo Fighters yn y brifddinas y flwyddyn nesaf i fod yn ofalus.

'Dechrau poeni'

Dywedodd Ms Thomas ei bod yn "ysu" am docynnau i weld Coldplay.

Fe ddaeth o hyd i rywun oedd yn gwerthu dau docyn am nad oedden nhw'n gallu mynd rhagor.

Fe dalodd y myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd 拢75 ar gyfer y ddau docyn yn ogystal 芒 拢100 ychwanegol gan fod y gwerthwr wedi dweud bod yn rhaid newid yr enwau ar y tocynnau.

Dywedodd: "Fe wnes i ddechrau poeni, ond doeddwn i ddim yn deall sut oedd Ticketmaster yn gweithio felly fe wnes i anfon yr arian."

Fe wnaeth y gwerthwr flocio Ms Thomas wedyn ac fe gollodd yr arian.

"Fe ges i fy nychryn ac ro'n i'n grac gyda fy hunan."

Dywedodd ei bod wedi cysylltu gyda'r banc i weld a allai gael yr arian yn 么l, ond dywedon y byddai hynny'n annhebygol.

Ffynhonnell y llun, Sian Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe geisiodd Sian Thomas brynu tocynnau i'w ffrindiau

Yn y cyfamser fe wnaeth Sian Thomas, 43, o Ben-y-bont ar Ogwr, golli arian ar Facebook hefyd wrth geisio prynu tocynnau i'w ffrindiau.

Dywedodd y gwerthwr wrthi y bydden nhw'n trosglwyddo'r tocynnau Ticketmaster iddi ar 么l iddi gael 拢210 am y ddau docyn.

Ond unwaith y cafodd yr arian ei anfon, fe gafodd Ms Thomas ei blocio gan y gwerthwr.

Dywedodd: 鈥淔i yw'r ffrind sydd wastad yn trosglwyddo'r arian a throi i fyny ond y tro hwn fe wnes i drio bod o help.

鈥淒w i byth am drefnu unrhyw beth eto!"

Cyngor i wneud ymchwil trylwyr

Fe wnaeth Lia Webb, arbenigwr cyfraith defnyddwyr o gwmni Which? ddweud bod cyngor y dylai pobl ei ddilyn wrth geisio prynu tocynnau.

鈥淏ydd twyllwyr yn defnyddio unrhyw abwyd y gallan nhw i geisio dwyn arian a gwybodaeth bersonol oddi wrth eu dioddefwyr.

"Yn anffodus nid yw tocynnau yn eithriad."

Mae ei chyngor yn cynnwys chwilio am werthwyr swyddogol er mwyn prynu tocynnau a gwneud digon o ymchwil wrth brynu tocynnau ail law.

Dywedodd hefyd y dylid cysylltu gyda'ch banc ar unwaith os oes unrhyw amheuaeth eich bod wedi eich twyllo.

Pynciau cysylltiedig