成人快手

Senedd Cymru: Gallai ASau golli eu sedd am gamymddwyn

Arwydd Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe allai鈥檙 cyhoedd gael y cyfle i wahardd Aelodau o Senedd Cymru sy鈥檔 camymddwyn fel rhan o gynlluniau sydd o dan ymgynghoriad.

Yn wahanol i Aelodau Seneddol yn San Steffan, dydy gwleidyddion ym Mae Caerdydd ddim ar hyn o bryd yn wynebu colli eu sedd os ydyn nhw鈥檔 torri rheolau ymddygiad.

Roedd hynny鈥檔 destun trafod y llynedd pan gafodd Aelod o Senedd Cymru ei wahardd am gyfnod ble byddai wedi wynebu deiseb adalw pe bai鈥檔 wleidydd yn San Steffan.

Ers 2016 mae aelodau o D欧鈥檙 Cyffredin sy鈥檔 cael eu gwahardd am o leiaf ddeng niwrnod yn wynebu deiseb adalw, ac os ydy o leiaf 10% o etholwyr ei etholaeth yn arwyddo鈥檙 ddeiseb, yna mae is-etholiad yn cael ei alw.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd AS Plaid Cymru Ben Lake y dylai ei gyn gyd-aelod o鈥檙 blaid, Rhys ab Owen, fod wedi wynebu鈥檙 posibilrwydd o golli ei sedd

Dydy鈥檙 drefn etholiadol fydd yn cael ei gyflwyno ym Mae Caerdydd fel rhan o鈥檙 penderfyniad i ehangu maint Senedd Cymru yn 2026, ddim yn caniat谩u ar gyfer cynnal is-etholiadau.

Ond mae aelodau o Bwyllgor Safonau鈥檙 Senedd yn ystyried a fyddai modd cyflwyno mecanwaith ble gallai etholwyr benderfynu a ddylai gwleidydd sydd wedi torri鈥檙 rheolau golli ei sedd.

Yn gynharach eleni, dywedodd AS Plaid Cymru Ben Lake y dylai ei gyn gyd-aelod o鈥檙 blaid, Rhys ab Owen, fod wedi wynebu鈥檙 posibilrwydd o golli ei sedd, ar 么l iddo gael ei wahardd o鈥檙 Senedd am 42 diwrnod am ymddwyn yn amhriodol tuag at ddwy ddynes yn ystod noson allan.

Mae Rhys ab Owen, a ymddiheurodd a sydd bellach wedi ei ddiarddel gan Blaid Cymru, yn parhau鈥檔 aelod o Senedd Cymru dros Ganol De Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Rhys ab Owen ei wahardd o鈥檙 Senedd am 42 diwrnod am ymddwyn yn amhriodol tuag at ddwy ddynes yn ystod noson allan

Mae cefnogaeth drawsbleidiol i鈥檙 syniad o fecanwaith adalw ym Mae Caerdydd ond ni wnaeth Llywodraeth Cymru ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth i ehangu maint y Senedd o 60 i 96.

Mae鈥檙 pwyllgor hefyd yn ymgynghori ar y syniad o atal gwleidyddion y Senedd am ddweud celwydd.

Daeth hynny wedi i Lywodraeth Cymru o dan arweinyddiaeth Vaughan Gething ar y pryd, ymrwymo i ddeddfu ar y mater ar 么l wynebu colli pleidlais.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 27 o Fedi.