成人快手

Morgan Ridler: Calonnau teulu 'wedi rhwygo'

Morgan Ridler
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Morgan ddeiagnosis o fath prin o ganser pan oedd yn ddyflwydd

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu bachgen pedair blwydd oed wedi cael gwybod nad yw鈥檙 driniaeth mae鈥檔 ei gael ar gyfer canser yn gweithio.

Cafodd Morgan Ridler o Orseinon ger Abertawe ddiagnosis o ganser prin iawn pan oedd yn ddyflwydd.

Daeth Morgan i sylw鈥檙 byd ar 么l i鈥檞 fam Natalie ddiolch yn gyhoeddus i fyfyriwr nyrsio mewn ysbyty yn Birmingham a ddysgodd ychydig o Gymraeg i staff er mwyn ei gysuro.

Yn 么l tad Morgan, Matt, mae ei galon 鈥渨edi ei rwygo鈥 gan y newyddion.

Fel teulu maen nhw鈥檔 awyddus i sicrhau fod gweddill bywyd Morgan yn un hapus ac mor gyfforddus ag y bo modd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y nodiadau gafodd eu gwneud gan y nyrs wrth ochr gwely Morgan yn yr ysbyty

Yn yr hydref roedd Morgan yn glaf yn Birmingham, ac fe geisiodd y nyrs ddysgu rhywfaint o eiriau Cymraeg i staff eraill er mwyn cysuro Morgan.

Ar 么l deall bod Morgan yn siarad Cymraeg gyda'i fam, fe wnaeth y nyrs oedd yn edrych ar ei 么l fynd ati i ysgrifennu ymadroddion Cymraeg ar y nodiadau ger ei wely, fel bod modd eu defnyddio i geisio'i wneud yn fwy cyfforddus.

Er iddo wella ers hynny, bellach, mae tiwmorau Morgan wedi tyfu a鈥檙 meddygon wedi dweud wrth ei rieni am baratoi ar gyfer gofal diwedd oes.

Disgrifiad,

Yn yr Hydref, sonioodd Natalie Ridler am sut ei bod "mor ddiolchgar" i'r nyrs am yr hyn a wnaeth i Morgan

Paratoi at ddiwedd gofal oes

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Matt:

鈥淢ae hyn yn rhywbeth nad oeddwn i erioed eisiau ei ysgrifennu nac yn ei ddymuno i unrhyw enaid arall.

鈥淵n fyr, [byddant] yn dweud wrthym nad oes unrhyw driniaeth wedi gweithio i Morgan ac y bydd yn cael ei drosglwyddo i ofal lliniarol a diwedd oes maes o law.

鈥淢ae fy rhyfelwr llygadlas bach wedi brwydro mor galed, ac rwy鈥檔 teimlo bod fy nghalon wedi鈥檌 rhwygo ond rydw i eisiau iddo gael atgofion hapus a pheidio 芒 deffro bob dydd mewn poen a heb unrhyw ansawdd yn ei fywyd.鈥

Roedd Morgan yn disgwyl cael rownd arall o gemotherapi, ond dywedodd meddygon y dylai ansawdd ei fywyd fod yn flaenoriaeth nawr.

"Ar hyn o bryd, dyw'r un ohonom ddim yn gwybod beth yw鈥檙 prognosis na pha mor hir, a wyddon ni ddim ar hyn o bryd ydy e鈥檔 rhywbeth ry鈥檔 ni isie鈥檌 wybod mewn gwirionedd," meddai tad Morgan.

Ychwanegodd nad oedd ganddo unrhyw syniad sut i dorri'r newyddion i chwaer iau Morgan.

鈥淩ydyn ni eisiau rhoi atgofion hapus i Morgan a Rhiannon, yn ogystal ag i ni fel rhieni, ac eisiau mynd ar deithiau a diwrnodau allan gyda鈥檔 gilydd, cyn belled ag y mae iechyd Morgan, amser ac arian yn caniat谩u,鈥 meddai.

Mae rhieni Morgan eisoes wedi dechrau elusen yn enw eu mab, er mwyn codi arian i deuluoedd sydd 谩 phlant wedi cael diagnosis o ganser.

Pynciau cysylltiedig