Dyn 20 oed wedi marw mewn digwyddiad yn Y Bermo
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad yn Y Bermo.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ardal am oddeutu 18:00 nos Lun, 27 Mai, wedi adroddiadau fod dyn wedi mynd i drafferthion tra'n nofio yn y m么r.
Bu nifer o asiantaethau yn cynorthwyo gyda'r chwilio, gan gynnwys Gwylwyr y Glannau, yr RNLI a'r heddlu.
Fe ddaethon nhw o hyd i'r dyn am tua 20:00, ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty gan ambiwlans awyr, ond bu farw yno.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffiths: "Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad ac sydd heb siarad gyda'r heddlu yn barod, neu rhywun sydd 芒 lluniau fideo i gysylltu gyda'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 24000477242.
"Mae ein meddyliau gyda theulu'r dyn fu farw, ac rydym yn parhau i'w cefnogi nhw.
"Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu am y farwolaeth."
'Y m么r yn gallu bod yn beryglus'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: 鈥淢ae hwn yn ddigwyddiad hynod drist ac yr ydym yn cydymdeimlo鈥檔 ddwys 芒 theulu a ffrindiau鈥檙 unigolyn a fu farw.
"Rydym hefyd yn talu teyrnged i鈥檙 gwasanaethau brys a ymatebodd i鈥檙 sefyllfa nos Lun.
"Rydym yn annog unrhyw un a welodd yr hyn ddigwyddodd i gysylltu 芒 Heddlu Gogledd Cymru."
Ychwanegodd: 鈥淢ae digwyddiadau fel hyn yn anghyffredin ac yn ein hatgoffa o ba mor beryglus gall y m么r fod.
"Gall traethau fod yn lefydd o beryglon cudd, megis tonnau pwerus a llanw cryfion.
鈥淩ydym yn galw ar y cyhoedd i fod yn ymwybodol o鈥檙 peryglon, i gymryd pob gofal a dal sylw o wybodaeth benodol, canllawiau ac arwyddion rhybudd.
"Rydym yn annog unrhyw un sy鈥檔 ymweld 芒鈥檙 arfordir i gadw golwg am arwyddion diogelwch ac i ystyried y tywydd a鈥檙 llanw ar ddiwrnod eu hymweliad."