³ÉÈË¿ìÊÖ

Tor priodas wedi gwneud Beti George yn 'berson cryfach'

Beti George a'i mab Iestyn yn cael cyfle i sgwrsio â'i gilydd yn rhifyn dathlu 40 mlynedd Beti a'i Phobol
Disgrifiad o’r llun,

Beti George a'i mab Iestyn - gwestai arbennig rhifyn dathlu 40 mlynedd Beti a'i Phobol

  • Cyhoeddwyd

Fe newidiodd bywyd y cyflwynydd Beti George yn "gyfan gwbl" ar ôl tor priodas - ond mae'r profiad, meddai, wedi ei gwneud yn berson cryfach.

Daw ei sylwadau mewn sgwrs arbennig rhyngddi hi a'i mab, Iestyn George i nodi pen-blwydd y rhaglen Beti a'i Phobol yn 40 oed.

Yn wahanol i raglenni arferol y gyfres - sydd wedi darlledu bob blwyddyn ers 1984 - mae'r gwestai yn cael y cyfle i holi Beti hefyd.

Daw i'r amlwg fod Iestyn, pan yn blentyn, wedi aros gyda'i dad yn Abertawe wedi iddo ef a Beti wahanu.

"Mae'n weird siarad am hyn yn gyhoeddus," meddai Iestyn, sydd bellach yn uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Brighton.

Disgrifiad o’r llun,

Beti George ar ddechrau'r 90au

Ychwanegodd Iestyn: "Ond pan mae pobl yn gwahanu maen nhw wedi cwympo mas o flaen llaw - a fi'n credu be mae unrhyw blentyn eisiau yw heddwch."

Dywedodd Beti George fod penderfynu symud i Gaerdydd tra bod ei mab yn Abertawe yn "gyfnod anodd i ni gyd".

"Newidiodd fy mywyd i'n gyfan gwbl a dwi'n meddwl o'r herwydd bo fi wedi dod yn berson cryfach achos oedd rhaid i fi a 'nes i daflu fy hun i'r gwaith," meddai.

'Gyrfa'n y cyfryngau ddim yn garedig i fenywod'

Dywedodd Iestyn na fyddai'r syniad rhamantus o'i fam yn y gegin yn ymarferol gan bod ei fam yn cyflwyno rhaglen Newyddion Saith.

I fod gydag e, meddai, fe fyddai ei fam wedi gorfod rhoi'r gorau i'w swydd.

Mae Beti George yn cydnabod ei bod yn "swydd anodd iawn i fenywod".

"Does dim dwywaith doedd gyrfa yn y cyfryngau ddim yn garedig iawn i fenywod - yn enwedig rhai â phlant."

Disgrifiad o’r llun,

"Roedd gyrfa yn y cyfryngau yn anodd i fenywod," meddai Beti George, yma gyda'i chydweithwyr yn y 1970au

Yn ystod y rhaglen cawn glywed hefyd am brofiad Iestyn a Beti yn mynd ar wyliau i Israel.

Fe wnaethon nhw yrru i fynydd Hermon pan oedd y rhyfel yn erbyn Libanus yn ei anterth ac yn gwmni iddyn nhw ar y daith i lawr roedd milwr â machine gun.

"Byddai Mam yn hoffi mynd ar wyliau i war zones," meddai Iestyn.

Dywedodd mai ei ddyddiau yn mynd gyda'i fam i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ pan yn blentyn oedd yn gyfrifol am ei ddiddordeb cynnar yn y cyfryngau.

"Ti'n gryf dy feddwl.. y pethe anodd sy'n dal dy lygaid di," meddai wrthi.

Er nad yw'r ddau yn gwirioni ar yr un math o gerddoriaeth dywed bod y ddau yn hoff o gerddoriaeth wahanol a bod hynny yn eu huno.

"Ti'n weirdo fel fi!"

'Be se'n i'n neud heb y rhaglen?'

Wrth i dad Iestyn ddewis newid gyrfa i fod yn gyfreithiwr, bu'n rhaid i Iestyn symud i ardal Y Wyddgrug ac yn y rhaglen mae'n sôn gyda brwdfrydedd am ei hoffter o grwpiau Cymraeg fel Y Cyrff.

Yn y rhaglen hefyd mae'n cyfeirio at ei waith gyda chylchgronau NME a GQ, yn marchnata’r Manic Street Preachers yn y dyddiau cynnar ac mae'n adrodd yr hanes amdano yn cyflwyno Jamie Oliver i sylw'r byd.

Roedd hyd yn oed yno ar ddechrau perthynas David a Victoria Beckham, meddai.

Mae darlledu'r rhaglen am 40 mlynedd yn garreg filltir bwysig i Beti George.

"Fi wrth fy modd fy mod i dal wrthi - 'wi ddim yn gwybod be se'n i'n 'neud heb y rhaglen," meddai.

Bydd rhaglen Beti a'i Phobol i'w chlywed ar Radio Cymru am 18:00 brynhawn Sul ac yna ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Sounds