成人快手

Mwslemiaid ifanc yn teimlo'n 'anniogel' wedi protestiadau

Azaan ac Ibrahim
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Azaan ac Ibrahim bod yr anrhefn dros y penwythnos yn gwneud iddyn nhw boeni

  • Cyhoeddwyd

Mae Mwslemiaid ifanc yn ne Cymru yn dweud bod ymosodiadau treisgar diweddar mewn rhannau o鈥檙 DU wedi gwneud iddyn nhw deimlo鈥檔 鈥渁nniogel鈥.

Ym Mosg Sgeti yn Abertawe, dywedodd Jana, 14, ei bod fel arfer yn teimlo ei bod yn cael ei hamddiffyn yn ei dinas, ond mae'r wythnos ddiwethaf wedi gwneud iddi boeni.

鈥淢ae鈥檔 ddinas amrywiol iawn ry鈥檔 ni鈥檔 byw ynddi, ond ar 么l yr hyn sydd wedi digwydd, rwy鈥檔 teimlo na alla鈥 i fynd allan ar fy mhen fy hun,鈥 meddai.

鈥淵n enwedig oherwydd fel menyw, rydw i'n gwisgo'r hijab. Mae鈥檔 hawdd iawn dweud fy mod i鈥檔 Fwslim.鈥

Fe ddechreuodd yr ymosodiadau mewn rhannau o Loegr a Gogledd Iwerddon ar 么l i dair merch gael eu lladd yn Southport yr wythnos ddiwethaf.

Mae Axel Rudakubana, 17 o Gaerdydd, wedi鈥檌 gyhuddo o鈥檙 ymosodiad ond fe ledaenodd gwybodaeth ffug ar-lein ei fod yn geisiwr lloches a oedd wedi cyrraedd Prydain ar gwch.

Dywedodd Nada, 17 o Abertawe, ei bod yn teimlo鈥檔 鈥渄rist ac yn bryderus鈥 bod gwybodaeth anghywir wedi ei rhannu ar-lein yn dilyn ymosodiad Southport.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd gwesty yn Rotherham oedd yn gartref i geiswyr lloches ei dargedu ddydd Sul

Mae dinasoedd gan gynnwys Lerpwl, Bryste, Belfast a Hull wedi gweld terfysgoedd ar y strydoedd.

Mae Prif Weinidog y DU, Keir Starmer wedi beirniadu 鈥測mddygiad asgell dde eithafol鈥 a ddydd Llun, fe gyhoeddodd 鈥渇yddin sefydlog鈥 o swyddogion heddlu arbenigol i fynd i鈥檙 afael 芒 phrotestiadau treisgar.

Does dim golygfeydd treisgar wedi eu gweld mewn unrhyw ddinasoedd yng Nghymru. Cafodd gwrthdystiad gwrth-hiliaeth ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Sul.

'Beirniadu fy nghroen a fy nghrefydd'

Dywedodd Azaan, 13 o Abertawe, ei fod yn teimlo bod yn rhaid iddo amddiffyn ei hun pan fydd yn mynd allan.

鈥淎r 么l yr hyn sydd wedi digwydd, dwi wir yn teimlo鈥檔 anniogel. Pan fyddaf yn mynd allan rwy'n ofalus iawn,鈥 meddai.

鈥淓fallai bod pobl yn beirniadu oherwydd fy nghroen a fy nghrefydd.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Azaan, 13, ei fod yn "ofalus iawn" pan yn gadael y t欧

Mae gwestai sy'n cartrefu ceiswyr lloches a mosgiau wedi'u targedu mewn rhai dinasoedd.

Dywedodd Ibrahim, 14, fod hyn yn ei boeni: 鈥淢ae [y Mosg] yn lle diogel. Rydym yn cysylltu fel cymuned. Mae鈥檔 lle heddychlon.鈥

'Condemnio'n llwyr y trais'

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Hil Cymru, Uzo Iwobi, fod 鈥測mosodiadau hiliol, terfysgoedd a chasineb hiliol llafar鈥 yn 鈥渙fnadwy鈥.

鈥淣i all fod unrhyw gyfiawnhad dros beintio pob ceisiwr lloches a ffoadur, ac yn wir ymfudwyr yn gyffredinol, gyda鈥檙 un brwsh oherwydd gweithredoedd dirmygus un unigolyn, a fydd yn wynebu cyfiawnder ymhen amser.

鈥淵ma yng Nghymru, mae鈥檔 rhaid i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru fod yn ganolog os ydym am sicrhau cymdeithas gydlynol a chynhwysol.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd hefyd anrhefn yn Sunderland dros y penwythnos

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fydd 鈥渇yth le i gasineb yng Nghymru, nac ar draws y DU鈥.

鈥淩ydym ni fel Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn y tu 么l i鈥檙 rhai sy鈥檔 ceisio uno, yn hytrach na rhannu, ein cenedl.

鈥淢ae ein gwaith gyda phartneriaid sy鈥檔 hyrwyddo cymunedau cryf, cydlynol a gwrth-hiliol ym mhob rhan o鈥檔 gwlad yn parhau drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, wrth i ni gondemnio鈥檔 llwyr y trais, y troseddoldeb a鈥檙 brawychu rydym wedi鈥檌 weld dros y dyddiau diwethaf.鈥

Pynciau cysylltiedig