Rhybudd melyn am wyntoedd cryf Storm Ashley i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl gwyntoedd cryf iawn yn siroedd gogledd orllewin ac ar hyd arfordir y gorllewin dydd Sul wrth i storm fawr gyntaf y tymor newydd daro'r DU.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt a fydd yn effeithio ar siroedd Gwynedd, Ynys M么n, Conwy, Ceredigion a Sir Benfro yn sgil Storm Ashley.
Fe fydd yn dod i rym am 03:00 fore Sul ac yn dod i ben am 23:59 nos Sul, er mae'n bosib y gallai'r union fanylion newid wrth i'r storm nes谩u a datblygu.
Mae disgwyl hyrddiadau hyd at 65 mya yn gyffredinol mewn mannau mewndirol, a hyd at 70 mya mewn mannau arfordirol ble bydd llanw mawr yn ffactor ychwanegol.
Fe allai'r amodau gwaethaf achosi trafferthion i yrwyr a theithwyr, difrod i adeiladau a thoriadau i gyflenwadau trydan.