成人快手

Rhybuddion am stormydd i Gymru gyfan dros y penwythnos

Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd rhybudd mewn grym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd y gallai stormydd mellt a tharanau a chawodydd trwm daro Cymru gyfan dros y penwythnos.

Mae rhybudd melyn ar gyfer Cymru gyfan wedi dod i rym am 01:00 fore Sadwrn, ac mae'r rhybudd hwnnw yn weithredol tan hanner nos, nos Sadwrn.

Wedi hynny, mae rhybudd melyn am law trwm mewn grym ar gyfer pob sir yng Nghymru oni bai am Ynys M么n trwy gydol dydd Sul.

Gallai hyd at 70mm o law ddisgyn o fewn ychydig oriau mewn rhai mannau, ac mae disgwyl cyfnodau o gesair neu genllysg.

Yn 么l y Swyddfa Dywydd, gallai'r stormydd effeithio ar amodau gyrru, trafnidiaeth gyhoeddus a chyflenwadau trydan i gartrefi a busnesau am gyfnod byr.

Pynciau cysylltiedig