成人快手

Ymgyrch 拢500,000 i roi bywyd newydd i hen ysgol Abersoch

Disgrifiad,

Anna Jones ac Einir Wyn o Menter Rabar, sy'n ceisio trawsnewid yr hen adeilad ysgol at ddiben y gymuned

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch wedi ei lansio i droi hen ysgol bentref a gaeodd ei drysau dair blynedd yn 么l yn ganolfan gymunedol gwerth 拢500,000.

Er gwaethaf ymgyrch i'w chadw ar agor fe gaeodd Ysgol Babanod Abersoch yn 2021 wedi i nifer y disgyblion syrthio i lai na 10.

Gydag Abersoch yn adnabyddus fel cyrchfan i dwristiaid ond hefyd 芒 chyfran uchel o ail gartrefi, roedd pryder byddai cau'r ysgol yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg.

Ond bwriad Menter Rabar yw adfywio'r adeilad - a agorodd fel ysgol union 100 mlynedd yn 么l - at ddiben y pentref a'r cymunedau cyfagos.

Pe bai'r cynllun yn cael ei wireddu fe fyddai'r ganolfan newydd yn cynnwys caffi a theras, gardd, arddangosfa ar dreftadaeth Abersoch ac unedau busnes i鈥檞 rhentu.

Ffynhonnell y llun, Menter Rabar
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cynlluniau ar gyfer y safle

Agorodd yr ysgol bren ei drysau ym mis Ionawr 1924 yn dilyn ymgyrch leol gan yr Henadur Abel Williams o Siop Talafon, y cyn-brifathro, Owen Williams, Belmont a William Williams, Tyddyn Callod, a oedd yn ffermwr a dyn busnes.

Rhoddwyd tir i鈥檙 pentref gan Syr William Winterbotham, tra bu Frank Charles Minoprio o Stad Haulfryn yn darparu鈥檙 cyllid ac yn cyflenwi鈥檙 deunyddiau adeiladu, a bu ei frawd, Arthur Minoprio, yn goruchwylio鈥檙 gwaith adeiladu.

Ffynhonnell y llun, Menter 'Rabar
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Agorodd yr ysgol bren ei drysau yn Ionawr 1924

Ond welodd yr ysgol ddim ei chanmlwyddiant, wedi iddi gau ddiwedd 2021.

Dim ond chwe disgybl oedd yn mynychu Ysgol Abersoch pan gaeodd, gyda'r ysgol yn darparu addysg i blant hyd at ddiwedd blwyddyn tri.

Ond dair blynedd yn ddiweddarach mae gr诺p cymunedol Menter Rabar - fel yr adnabyddir Abersoch gan lawer yn lleol - yn benderfynol o ddefnyddio canmlwyddiant agor yr ysgol fel man cychwyn i sicrhau ei dyfodol.

Wedi gosod targed o 拢500,000 i wireddu'r cynllun yn ei gyfanrwydd, maen nhw'n gobeithio cynnal sesiynau ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a darparu clybiau ar 么l ysgol i blant y cylch.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae arwydd newydd wedi ei osod ar un o gapeli'r pentref yn hysbysebu'r ymgyrch

Dywedodd Einir Wyn, ysgrifennydd Menter Rabar mai'r bwriad ydy "adfywio'r ysgol er bydd y gymuned" ac y bydd diwrnod agored yn cael ei drefnu i drafod y cynlluniau gyda thrigolion y pentref.

"Oedd cau'r ysgol yn golled enfawr, yn enwedig o ran yr iaith Gymraeg," meddai.

"Mae pawb yn gwybod, ma' hi'n gwanio yma dros y blynyddoedd, ac oedd y plant yn cael sylfaen arbennig o dda, a chalon y gymuned ydy ysgol ac yn sicr mi oedd hon."

Ychwanegodd fod pryder bydd yr adeilad yn cael ei golli os nad yw eu cynllun yn llwyddiannus.

"Mae 'na hen ddigon o dai yma sy'n wag neu yn dai haf yn barod. Mae o am fod yn bositif iawn gobeithio," meddai.

"'Da ni wedi cael tan ddiwedd y flwyddyn gan Gyngor Gwynedd i brofi'n bod yn gallu cael caniat芒d cynllunio a bod 'na arian i drosi.

"'Da ni yn y broses o roi cais i fewn i'r llywodraeth am 拢300,000.

"Mae o'n mynd i gostio tua hanner miliwn i ni i gyd a 'da ni wedi lansio cynilo torfol ac mae pobl wedi dechrau cyfrannu."

Roedd Anna Jones yn brifathrawes ar Ysgol Babanod Abersoch ar ddiwedd y 1990au, ac mae bellach yn aelod o'r fenter.

Dywedodd ei fod yn "bwysig dros ben" fod defnydd positif yn cael ei wneud o'r adeilad, r诺an fod yr ysgol wedi cau.

Ffynhonnell y llun, Menter Rabar
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyluniad o sut fyddai'r caffi a'r teras yn edrych

"Mae Abersoch yn cael rhyw enw gwael, hyd yn oed gan bobl ym Mhen Ll欧n weithia, fod neb yn siarad Cymraeg a ballu," meddai Mr Jones.

"Ond mae'n hen adeilad, ac yn un pren. Fe ddywedwyd am Abersoch - pentref hefo ysgol bren ac eglwys tin.

"Mae'n bwysig iawn fod y lle ar agor i bobl yn lle fod 'na rhyw hen fflatiau a'i chwalu'n rhacs.

"Mae 'na lawer yn parcio yn y maes parcio yma a fydd y caffi'n handi iawn i bobl fynd am baned."

Ychwanegodd fod yr ymateb i'r fenter yn lleol wedi bod yn "ardderchog".

"Mi agorwyd yr ysgol yn 1924 a fydda hi wedi dathlu canmlwyddiant eleni ac mae hi mor drist bod hi ar gau," meddai Mr Jones.

"Felly drwy wneud hyn fyddwn ni'n dathlu canmlwyddiant mewn ffordd gadarnhaol iawn, iawn, iawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gyda golygfeydd fel y rhain, dyw hi ddim yn syndod fod Abersoch yn gyrchfan mor boblogaidd

Cyn cwblhau'r cynllun busnes roedd Menter Rabar wedi sicrhau 拢20,000 mewn grantiau i ariannu鈥檙 astudiaeth ddichonoldeb a chynlluniau pensaern茂ol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn cefnogi'r cais.

鈥淵n dilyn derbyn cynllun busnes gan Menter Rabar i gefnogi eu cais am drosglwyddiad cymunedol o safle Ysgol Abersoch, mae Cyngor Gwynedd wedi darparu ymrwymiad i gefnogi鈥檙 cais," meddai.

"Mae鈥檙 ymrwymiad hwn yn amodol ar allu鈥檙 fenter i sicrhau ymrwymiad o ffynonellau ariannu ar gyfer gwireddu鈥檙 cynllun, ac ar dderbyn s锚l bendith Cabinet y Cyngor i鈥檙 trosglwyddiad.

"Mae Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau y Cyngor yn cefnogi鈥檙 Fenter gyda鈥檙 gwaith o ddatblygu cyfleodd posib.鈥

Pynciau cysylltiedig