Galw am gludiant ysgol o Loegr at addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am i blant sy鈥檔 byw ar y ffin yn Lloegr gael yr un hawl 芒 disgyblion Cymru wrth dderbyn cludiant i ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Ar hyn o bryd, dyw plant sy鈥檔 mynychu ysgolion Cymraeg ond yn byw ychydig dros y ffin yn Lloegr ddim yn gymwys am gludiant o鈥檙 fath.
Yn 么l rhieni mae angen gwella鈥檙 gefnogaeth er mwyn hybu addysg Gymraeg, ac na ddylen nhw ddioddef oherwydd eu bod yn byw "milltir i鈥檙 cyfeiriad anghywir".
Yn 么l cynghorau Powys a'r Amwythig mae鈥檔 fater a allai weld budd o gytundeb cydweithio newydd rhwng awdurdodau lleol ar y ffin.
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
Mae hen dref farchnad Croesoswallt yn gartref i鈥檙 unig Cylch Ti a Fi y tu hwnt i Gymru.
Yno, mae nifer o rieni yn penderfynu teithio o ardaloedd cyfagos i roi cyfle i鈥檞 plant ifanc glywed y Gymraeg a chael cyfle i chwarae.
Wedi ei sefydlu bum mlynedd yn 么l, mae Elin Machin, sy鈥檔 byw yn Ellesmere, yn dod 芒鈥檌 mab Jimmy yma ac yn arwain sesiynau.
"Ma'n bwysig oherwydd dwi'n siarad Cymraeg a dwi isio plant fi siarad Cymraeg, ac mae rhywbeth fel hyn yn berffaith i gael mwy o blant yma," meddai.
Neges debyg sydd gan Phillipa Edwards, sy鈥檔 byw dros y ffin ac yn dod 芒鈥檌 merch Florence i'r cylch.
"Dwi'n gweithio yn Ellesmere a does 'na'm Cymraeg yna o gwbl, ond ar 么l symud i Groesoswallt a chael Florence o'n i jest isio iddi ddeall Cymraeg."
Tra bod y Cylch Ti a Fi yn werthfawr a phoblogaidd, mae 'na rwystrau medd rhieni wrth ddewis ysgol gynradd ac uwchradd.
Wrth fyw dros y ffin, does dim cludiant i ddisgyblion sy'n teithio ar draws Glawdd Offa i dderbyn addysg Gymraeg, yn wahanol i blant sy'n byw yng Nghymru.
Yn 么l Ceri Roberts, mam i ddwy sy鈥檔 byw yn sir Amwythig, ni ddylai鈥檙 gymuned Gymraeg ar y ffin gael eu cosbi oherwydd eu bod yn byw ychydig filltiroedd i鈥檙 cyfeiriad arall.
"Fasa cael cludiant yn helpu lot achos fasa fo'n safio o ran y pres 'da ni'n ei wario," meddai.
"A jest rhoi'r un hawl i ni - dwi'n byw milltir a hanner dros y ffin.
"Dwi'n anfon plant fi i ysgol Gymraeg a dwi鈥檔 meddwl dylwn i gael y cludiant i fynd yna."
Er yn Lloegr, mae Croesoswallt yn parhau i fod yn hwb i Gymreictod a鈥檙 iaith Gymraeg.
Gyda galw am fwy o gefnogaeth i gefnogi'r sector Gymraeg yno, mae nifer o oedolion sy'n dysgu'r iaith yn dweud ei bod yn siom na chafon nhw ddewis i fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Yn 么l Hefin Jones, sy'n fam a bellach yn nain, mae angen mwy o gyfleoedd i gadw鈥檙 Gymraeg yn fyw yma.
"Gafodd fy mhlant i ddim y cyfle i gael addysg Gymraeg," meddai.
"Oedd, mi oeddan ni鈥檔 siarad Cymraeg gartref, ond fel oeddan nhw'n tyfu fyny a'u ffrindiau yn siarad Saesneg, doeddan nhw ddim isio clywed am y Gymraeg, a siarad Saesneg maen nhw r诺an.
"Mater o gael hyder ydy o."
Mwy o gydweithio ar y gweill
Gyda phartneriaeth newydd ar y gweill rhwng pedwar o gynghorau sir sy鈥檔 ymestyn ar draws y ffin - Amwythig, Powys, Henffordd a Mynwy - mae 'na le am fwy o gydweithio.
Yn bennaf, bydd y bartneriaeth yn galluogi鈥檙 ardaloedd i ddatblygu cynlluniau ac uno ceisiadau grantiau.
Ond yn 么l arweinyddion cynghorau Powys a'r Amwythig, fe allai trefnu cludiant i blant yn Lloegr sy鈥檔 mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg hefyd gael ei flaenoriaethu.